Sêl bendith i gyffur lewcemia

Leukaemia cells
Image caption Mae lewcemia lymphocystic yn aml i'w weld mewn pobl dros 60

Mae pobl sy'n dioddef o'r math mwyaf cyffredin o lewcemia mewn oedolion am gael yr hawl i gael y cyffur Gazyvaro ar gost y gwasanaeth iechyd, cyffur a allai leihau risg marwolaeth o 59%.

Mae lewcemia lymphocystic chronig yn effeithio ar 3,000 o bobl yng Nghymru a tua 20,000 yn y DU.

Fe wnaed y profion ar y cyffur Gazyvaro ym mhrifysgol Caerdydd. Mae'r cyffur yn targedu celloedd y canser cyn eu bod yn cael cyfle i luosogi a lledu yn y corff.

Dau fis yn ôl penderfynodd NICE,Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, i beidio â rhoi sêl bendith i'r cyffur.

Ond nawr mae'r corff wedi ailfeddwl ar ôl profion pellach ar ffaith fod costau'r cyffur wedi lleihau.

"Mae penderfyniad Nice yn golygu y bydd gan glinigwyr opsiwn pwysig arall wrth drin cleifion, ac i geisio ymladd y math hwn o ganser gwaed," meddai'r athro Chris Fegan, wnaeth arwain y profion ym mhrifysgol Caerdydd.

"Mae nifer o gleifion gyda'r math yma o lewcemia hefyd yn dioddef o gyflwr meddygol arall, fel diabetes neu glefyd y galon. Mae hynny'n golygu nad yw triniaethau eraill o hyd yn addas.

"Mae Gazyvaro yn gyffur mae nifer yn gallu ei ddefnyddio, gan olygu nad yw'r canser yn lledu neu'n adfywio am gyfnod hirach, a hyd yn oed yn rhoi gwell cyfle o oroesi. "

Lewcemia lymphocystic

  • Lewcemia lymphocystic chronig, yw'r math mwyaf cyffredin o lewcemia mewn oedolion yn y byd gorllewinol
  • Mae tua 3,100 o bobl yn cael diagnosis o'r clefyd yn y DU bob blwyddyn
  • Mae'r cyflwr yn aml i'w weld mewn pobl dros 60, ac mae dynion ddwywaith fwy tebyg o ddatblygu'r cyflwr

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.