'Angen rhanbarth gref ar economi Cymru'

Cardiff and Bristol composite image Image copyright David Dixon/BBC
Image caption Mae dinasoedd Caerdydd a Bryste eisoes wedi cynnal trafodaethau ynglyn a 'diddordebau cyffredin'

Yn ôl gwaith ymchwil newydd fe fydd Cymru ar ei cholled pe na bai Caerdydd yn dod yn rhan o ranbarth economaidd mwy er mwyn gwneud cais am fuddsoddiad economaidd gan Lywodraeth y DU.

Mae disgwyl i'r Canghellor, George Osborne roi help ychwanegol i ranbarthau Leeds a Sheffield yn ei Ddatganiad Hydref ddydd Mercher.

Daw hyn yn sgil buddsoddiadau sydd eisoes wedi eu gaddo i ranbarthau Manceinion a Glasgow.

Mae grŵp 'Centre for Cities' wedi galw ar Gaerdydd i gydweithio yn agosoach gydag ardaloedd eraill yn y de yn ogystal a dinas Bryste.

Nod Llywodraeth y DU drwy gefnogi cynllun 'dinasoedd mawr' yw ceisio lleihau'r bwlch rhwng economi Llundain a gweddill y DU.

Mae'r cynllun hefyd yn rhan o ymateb gwleidyddol o San Steffan yn dilyn refferendwm ar annibyniaeth yr Alban.

Partneriaeth

Cafodd dinas Manceinion ei ddefnyddio fel esiampl dda o'r hyn i'w ddilyn pan gafodd rhanbarthau dinasoedd Caerdydd ac Abertawe eu lansio.

Erbyn hyn, mae rhanbarth Manceinion wedi cael mwy o bwerau dros dai, trafnidiaeth a lles.

Mae rhanbarth Manceinion hefyd wedi ffurfio partneriaeth gyda dinasoedd eraill yng ngogledd Lloegr er mwyn gwneud cais am fwy o fuddsoddiad

Dywedodd Andrew Carter, prif weithredwr dros dro 'Centre for Cities', fod angen i Gaerdydd a Bryste ymateb i'r posibilrwydd o gystadleuaeth oddi wrth y rhanbarthau eraill.

"Mae yna bryder go iawn y gallai Caerdydd a Chymru fod ar eu colled o beidio â gallu cydweithio a gwneud dadl gref i Lywodraeth y DU," meddai.

Dywedodd mai'r cam cyntaf fyddai i Gaerdydd ac awdurdodau lleol cyfagos i gydweithio yn agosach.

"Yna", meddai "fe allai Caerdydd gysylltu â Bryste er mwyn gweld a oedd yna feysydd lle bod modd cydweithio. "

Gallai hynny gynnwys trydaneiddio'r rheilffyrdd, y diwydiannau digidol a chreadigol, a datblygiad atomfa newydd yn Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf, meddai Mr Carter.

Dywedodd Dylan Jones-Evans, Athro Entrepreneuriaeth ym mhrifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste, ei fod yn cytuno a bod angen i Gymru fanteisio ar drydaneiddio'r rheilffordd o Lundain.

"Pe na bae ni'n cydweithio yn fwy agos, yna bydd y prif fuddsoddiad sy'n dod o Lundain yn ystod y cyfnod hwn yn gorffen ym Mryste."

Straeon perthnasol