Rocet Arwel Jones yn 'gryfach' wedi profiad diswyddo

Rocet Arwel Jones yn gadael y tribiwnlys cyflogaeth fis diwetha'
Image caption Rocet Arwel Jones yn gadael y tribiwnlys cyflogaeth fis diwetha'

Ddechrau mis Tachwedd fe benderfynodd tribiwnlys cyflogaeth yn Hwlffordd fod dau aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth wedi cael eu diswyddo yn annheg.

Dyfarnodd y tribiwnlys fod y Llyfrgell wedi torri telerau cytundebau Rocet Arwel Jones ac Elwyn Williams drwy israddio eu swyddi.

Aeth y ddau â'u cyn gyflogwr i dribiwnlys ar ôl cael eu disgyblu am wneud camgymeriadau wrth reoli cytundeb allanol.

Mae Arwel Jones, yn ei unig gyfweliad cyhoeddus ar y mater, yn trafod ei ddiswyddo a chanlyniadau'r tribiwnlys gyda chylchgrawn ar-lein 'Perthyn', sydd yn cael ei gyhoeddi gan Gapel y Morfa, Aberystwyth.

Disgrifiwch eich teimladau wrth glywed y dyfarniad?

Wyddoch chi pan mae awyrydd neu oergell yn diffodd yn ddiarwybod i chi mewn 'stafell a 'dach chi'n sylweddoli mor dawel ydy hi, er nad oeddech chi'n ymwybodol o'r sŵn cyn hynny? Felly'n union. Rhyddhad mawr. Mwy o ryddhad nag oeddwn i wedi ei ddychmygu.

Sut brofiad oedd bod mewn tribiwnlys?

Doeddwn i erioed, hyd yma, wedi gwerthfawrogi'r ymadrodd Saesneg 'I've had my day in court'. Roedd cael cyfle i ddweud y cyfan o'n i am ei ddweud a theimlo fy mod wedi cael gwrandawiad teg, yn ogystal â chlywed y Llyfrgell yn dweud/cyfaddef rhai pethau yr oeddwn i'n dechrau amau mod i wedi eu dychmygu, yn rhyddhad mawr.

Doeddwn i hyd yma ychwaith wedi gwerthfawrogi arwyddocâd dwfn a sylfaenol cael gwneud hynny yn fy iaith fy hun.

Beth oedd yn eich cynnal yn ystod y cyfnod yma?

Teulu a ffrindiau. Yn llythrennol, Sharon a'r hogia'. Ond dwi'n ymwybodol iawn eu bod nhw nid yn unig yn fy nghynnal i ond yn mynd trwy'r profiad yn eu ffyrdd eu hunain ar yr un pryd. Os rhywbeth, roedd hi'n anoddach arnyn nhw na fi, yn enwedig efallai'r hogia' - yn deall ond eto ddim yn deall.

Ac wrth gwrs roedd dau ohonon ni'n wynebu achos - roedd rhannu'r profiad efo Elwyn a chael cefnogaeth wych gan yr undeb yn allweddol. Ffrindiau gynhaliodd ni i gyd fel teulu. Cefnogaeth pobl oedd yn galw - roedd hi fel tŷ galar acw ar brydiau, pobl yn galw efo bwyd a diod! A rhywsut, roedd hi yn brofedigaeth.

Hen ffrindiau a rhai newydd. Cyn gydweithwyr yn driw pan oedd hi'n 'beryglus' iddyn nhw fod a theulu'r Eglwys. Chwerthin. Llaw ar ysgwydd. Gweddi bwrpasol. Gwên. Holi. 'Gwead nid gwaed'. Hyd yn oed cyhoeddi. Cael gwneud rhywbeth cyhoeddus pan nad oeddwn i'n 'cael' gwneud dim yn gyhoeddus.

Image caption Cafodd Rocet Arwel Jones ac Elwyn Williams eu hisraddio gan banel disgyblu'r Llyfrgell Genedlaethol am gamgymeriadau yn ymwneud â rhoi cytundeb i gwmni preifat

Oedd 'na adegau pan oeddech chi'n cael eich temtio i ddweud digon ydi digon?

Oedd. Darllenais lawer o ystrydebau drwy hyn oll, ond un a fachodd yn y cof oedd mai nid hapusrwydd yw'r gwrthwyneb i iselder ond bywiogrwydd (vitality). Ac roedd yna adegau allweddol pan oeddwn i angen y 'bywiogrwydd' yna a doedd o ddim wrth law. Ond roedd Sharon yn gryfach na fi ar adegau felly a'r holl bobl uchod yn gefn i ni.

Ydi digwyddiadau fel hyn wedi herio eich dealltwriaeth o faddeuant a dal dig?

O ydi!! Ond os cai gymryd cam yn ôl? Mae'r holl sefyllfa a'r driniaeth nes i ei dioddef am fisoedd wedi siglo fy ffydd i ynof fi fy un, be ges i fy magu i'w gredu, be ydw i fel oedolyn wedi ei gredu yn foesol ac yn wleidyddol: cymryd cyfrifoldeb am fy ngweithredoedd, bod yn agored ac yn deg, y 'rheol aur' - trin eraill fel mae rhywun yn disgwyl cael ei drin ei hun.

Felly dwi wedi byw fy mywyd a lle felly, diolch byth, oedd y Llyfrgell i weithio ynddo fo. Ond fe newidiodd yn sydyn heb i mi sylwi. Ac fe siglodd hynny fi nes i mi ddechrau credu bod yr holl bethau yna yn feiau ac yn wendidau yn hytrach na'r cryfderau o'n i wedi eu hedmygu yn fy nghyd-ddyn dros bedwar degawd.

Dydy maddeuant ddim 'run fath ac anghofio. Does dim modd anghofio. Ond er mwyn symud ymlaen mae'n rhaid gollwng y gorffennol. (Rhagor o ystrydebau gwir!) Er fy mwyn fy hun a phawb o 'nghwmpas i dwi'n ymdrechu bob dydd i faddau.

Dialedd? Mae hwn yn haws. Ydw dwi ishio. Ond mae'n rhaid i mi beidio. Dwi'n amau mai dialedd a chwerwedd sydd wrth wraidd hyn oll. Dydy cychwyn cylch arall ohono ddim yn mynd i helpu neb.

Ydych chi'n edrych ar 'fory mewn ffordd wahanol oherwydd y profiad yma?

Dwi'n meddwl fod yr egwyddorion dwi wedi eu crybwyll uchod wedi eu profi yn y tân ac rwyf wedi dod allan yn gryfach. 'Dan ni'n gorfod byw ar lai yn faterol a dwi'n dysgu byw ar fwy yn ysbrydol. Dwi'n mwynhau fy ngwaith newydd, ond yn gadael ar ddiwedd y dydd ac yn anghofio amdano fo.

'Dan ni wedi dysgu pwy oedd ddim yn ffrindiau i ni ond 'dan ni wedi gwerthfawrogi hen ffrindiau fwyfwy ac wedi cael ein bendithio efo ffrindiau na wyddon ni ddim eu bod nhw mor driw.

Mewn datganiad, dywedodd y Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Aled Gruffydd Jones: "Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn nodi penderfyniad y tribiwnlys cyflogaeth ac yr ydym yn aros i dderbyn manylion llawn y dyfarniad. Byddai'n amhriodol i ni roi sylwadau pellach ar hyn o bryd."

Cafodd y cyfweliad uchod ei gyhoeddi yn wreiddiol yng nghylchgrawn ar-lein 'Perthyn' sydd yn gyhoeddiad gan Gapel y Morfa, Aberystwyth.

Straeon perthnasol