Abertawe 2-0 QPR

Rob green Image copyright Getty Images
Image caption Roedd rhaid i Rob Green wneud arbediad campus i atal ergyd Sigurdsson rhag croesi'r linell

Roedd dwy gôl yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Abertawe yn erbyn Queens Park Rangers nos Fawrth.

Gylfi Sigurdsson aeth agosaf i sgorio yn yr hanner cyntaf, wrth i Rob Green blymio yn isel i'w chwith i gadw cic-rydd Sigurdsson allan, er i'r camerâu ddangos bod y bêl yn agos iawn at groesi'r linell.

Roedd rhaid i Green arbed ergydion gan Wilfried Bony a Kyle Bartley hefyd wrth i Abertawe bwyso.

Er i'r Elyrch barhau i bwyso yn yr ail hanner, roedd rhaid aros tan y chwarter awr olaf i Ki Sung-Yueng grymanu ergyd heibio'r golwr ac i'r rhwyd.

Daeth yr ail yn fuan wedyn, wrth i gyn chwaraewr QPR, Wayne Routledge, saethu i'r rhwyd o du allan i'r cwrt cosbi i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Mae Abertawe wedi symud i'r chweched safle yn yr Uwch Gynghrair.

Image copyright Getty Images
Image caption Ki Sung-Yueng sgoriodd y gyntaf i'r Elyrch yn y Liberty