Datganiad: £70m i'w wario ar iechyd

George Osborne
Image caption Mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb (ar y dde) wedi croesawu Datganiad yr Hydref gan George Osborne

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw'n gwario'r £71 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd yn ystod Datganiad yr Hydref ddydd Mercher ar y gwasanaeth iechyd.

Mae Cymru'n derbyn yr arian o ganlyniad i wario ychwanegol ar iechyd yn Lloegr, ond roedd gweinidogion yma wedi cael gwybod y gallent wario'r arian ar unrhyw beth.

Yn dilyn Datganiad yr Hydref yn San Steffan ddydd Mercher, fe gadarnhaodd llywodraeth Cymru mai ar iechyd fyddai'r arian ychanegol yn cael ei wario yma, hefyd.

Meddai Jane Hutt: "Mae buddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon - fel sydd wedi ei adlewyrchu yn ein Cyllideb ar gyfer 2015-16.

"'Dy ni wedi cymryd y cyfle heddiw i roi hwb i'n buddsoddiad gyda £70m yn ychwanegol o arian.

"Mae hyn yn golygu ein bod ni wedi cynyddu buddsoddiad yn y GIG yng Nghymru o fwy na hanner biliwn dros gyfnod o ddwy flynedd.

"Mae hyn yn arddangos ein ymrwymiad clir i wasanaeth iechyd cynaliadwy yng Nghymru - ar sail argymhellion adroddiad Nuffield."

Trethi

Wrth i'r Canghellor George Osborne gyflwyno'r Datganiad yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher, daeth hefyd i'r amlwg y gallai Llywodraeth Cymru gael rheolaeth o hyd at £3 biliwn mewn trethi erbyn 2020 wrth i ddatganoli gael ei ehangu, yn ôl y ffigurau swyddogol cynta' i gael eu rhyddhau.

Ymhlith y mesurau eraill sy'n berthnasol i Gymru, mae cynlluniau i ailwampio treth stamp, gyda Mr Osborne yn honni y bydd 98% o'r bobl sy'n prynu eiddo yn talu llai.

Fydd dim rhaid talu trethi hedfan ar gyfer plant ar hediadau cyffredin chwaith, a fydd dim angen talu cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol ar gyfer prentisiaid o dan 25 oed.

Bydd trethi busnes yn cael eu datganoli'n llwyr i Gymru.

£3 biliwn

Bydd £3 biliwn posib yn dod i goffrau Bae Caerdydd mewn refeniw trethi erbyn 2020, yn ôl ffigurau'r Swyddfa dros Gyfrifoldeb Cyllidebol (OBR).

Mae'r ffigurau yn awgrymu petai Gweinidogion Cymru'n gallu rheoli 10c yn y bunt, gallai'r trethi godi £1.9 biliwn yn y flwyddyn ariannol yma, gan gynyddu i £2.5 biliwn erbyn 2019-20.

Ymhlith y trethi eraill fyddai'n cael eu datganoli mae treth stamp, gyda darogan y gallai hwnnw godi i £246 miliwn erbyn 2019-20.

Byddai treth tirlenwi yn codi hyd at £53 miliwn, a threthi o agregau fel tywod a cherrig yn codi £27 miliwn.

Mae'r OBR yn darogan y gallai refeniw trethi fod yn £2.83bn yn 2019-20 - llai nag un rhan o bump o gyllid Llywodraeth Cymru.

Bydd treth stamp, agregau a thirlenwi'n cael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2018.

Byddai rheolaeth dros gyfran o dreth incwm ond yn cael ei ddatganoli petai yna bleidlais gadarnhaol mewn refferendwm.

Image caption Bydd y dreth stamp ar dai yn decach, yn ôl y Canghellor

'Cynllun economaidd yn gweithio'

Wrth gyflwyno Datganiad yr Hydref yn Nhŷ'r Cyffredin brynhawn dydd Mercher, dywedodd George Osborne yn mynnu bod ei gynllun economaidd ar gyfer Prydain yn gweithio.

Dywedodd bod yr economi'n tyfu, a bod diweithdra ar i lawr, ynghyd â chwyddiant a'r diffyg ariannol.

Roedd o'n annog y DU i "barhau i anelu at ffyniant".

Dywedodd Mr Osborne wrth ASau fod y rhagolygon ar gyfer twf eleni wedi codi i 3%.

Ond mae disgwyl i'r llywodraeth orfod benthyg mwy o arian eleni nag oedd wedi'i amcangyfrif yn wreiddiol.

Mae'r Swyddfa dros Gyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) wedi codi'r rhagolygon benthyg ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol o £86.6bn i £91.3bn, sy'n dal yn is na'r £97.5bn a gafodd ei fenthyg y llynedd.

Y darogan ydy y bydd y swm fydd angen ei fenthyg y flwyddyn nesa' yn gostwng i £75.9 biliwn.

Dadansoddiad ein gohebydd seneddol, Elliw Gwawr:

Cyhoeddiad economaidd oedd hwn, ond gydag etholiad ymhen pum mis roedd hwn hefyd yn ddatganiad gwleidyddol iawn gan y canghellor.

Mae dyled y wlad yn dal i fod yn llawer rhy uchel, ond gyda'r economi'r wlad yn tyfu yn gyflymach nad unrhyw wlad ar ally n yr G7- y neges glir gan george osborne, ac un da ni'n mynd i glywed lawer gwaith cyn yr etholuiad - yw "aroswch gyda ni os nad ydych chi am fygwth yr adfywiad, mae gwaith eto i'w wneud." Hynny yw nid nawr yw'r amser i roi cyfle arall i'r blaid Lafur.

Ond rhag ofn bod etholwyr yn ystyried gwneud hynny, roedd y prif gyhoeddiadau, ynglŷn â'r newid i dreth stamp a'r arian ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd, hefyd yn ymgais glir gan y canghellor i herio'r blaid Lafur ar rai o'u polisïau cryfaf nhw, fel y dreth ar dai drudfawr.

Wrth gwrs, Llywodraeth Cymru fydd yn dewis sut i wario yr arian ychwanegol ddaw yn sgil gwariant ar y gwasanaeth iechyd yn Lloegr, ac ymhen pedair blynedd bydd y dreth stamp hefyd wedi'i ddatganoli.

Mae hynny ei hun yn dweud cyfrolau - nid yw popeth dan reolaeth y canghellor y dyddiau hyn.

'Penderfyniadau cywir'

Mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn dweud bod Datganiad yr Hydref yn newyddion da i bobl Cymru.

Meddai: "Diolch i'r penderfyniadau caled sydd wedi'u gwneud yn y gorffennol, mae economi'r DU yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw wlad arall ddatganoledig. Mae diweithdra'n gostwng yng Nghymru ers dwy flynedd ac mae swyddi newydd yn cael eu creu ar draws y wlad mewn ystod eang o ddiwydiannau.

"Rydyn ni'n gwybod bod angen gwneud mwy...Dim ond trwy gadw at ein cynllun economaidd tymor hir fyddwn ni'n gallu sicrhau dyfodol gwell a mwy o sicrwydd ariannol i Gymru a'r DU yn gyffredinol.

"Rydw i'n benderfynol ein bod yn dal i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer economi Cymru er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i bawb yng Nghymru."

Yn ôl Gweinidog Cyllid Cymru, Jane Hutt, yn dweud y byddai'r cyllid ychwanegol yn "mynd ychydig o'r ffordd tuag at wneud yn iawn am y toriadau eang i wasanaethau cyhoeddus", ond ychwanegodd fod y gyllideb yn dal yn 9% yn llai mewn termau real nag yr oedd yn 2010-11.

Ychwanegodd: "Tra bod 'na newyddion cadarnhaol yn Natganiad yr Hydref, mae yna lawer o waith yn dal i'w wneud er mwyn darparu setliad ariannol teg a chynaliadwy i Gymru."

'Disgyn ar ei hôl hi?'

Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: "Mae'r newidiadau pellgyrhaeddol ar gyfer treth stamp yn newyddion gwych i rai sy'n meddwl prynu ty yng Nghymru.

"Mae codi'r trothwy i £10,600 yn fuddugoliaeth amlwg glir i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

"Mae'n golygu y bydd dros filiwn o bobl yng Nghymru'n gweld gostyngiad pellach yn y dreth maen nhw'n talu tra bydd 20,000 o'r gweithwyr ar y cyflogau isa' yng Nghymru bellach ddim yn talu ceiniog mewn treth incwm."

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS: "Tra'n bod ni'n croesawu datganoli trethi busnes, bydd angen i Lywodraeth Lafur Cymru ddefnyddio hyn nawr i sicrhau amgylchedd llawer gwell i fusnesau Cymreig.

Ychwanegodd nad oedd llawer mwy i'w gynnig i Gymru yn y Datganiad, gan ddweud: "Dyw Mesur Cymru ar ei ffurf bresennol ddim yn addas bellach. Os ydyn ni am daclo diweithdra a chreu twf economaidd, mae'n rhaid i Gymru gael yr un pwerau i greu swyddi â'r Alban neu byddwn ni'n cael ein gadael ar ôl."

Straeon perthnasol