I orwedd mewn preseb?

Y geni Image copyright YMDDIRIEDOLAETH SAMUEL COURTAULD
Image caption Ydi drama'r geni yn berthnasol yn yr oes fodern?

Bydd plant a phobl ifanc ym mhob cwr o Gymru yn cymryd rhan yn nrama'r geni'r mis yma, ond pa mor berthnasol ydi'r traddodiad bellach a ninnau yn byw mewn cymdeithas aml-ddiwylliannol?

Cafodd Cymru Fyw farn Dylan Llŷr, anffyddiwr o Gaernarfon a Gwen Emyr, cyn-athrawes fu'n gweithio tan y ddiweddar gydag elusen Gristnogol Menter Ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd.

"Gormod o grefydd"

Dydi'r drefn bresennol ddim wrth fodd Dylan: "Dwi yn erbyn gorfodi crefydd ar blant a dwi'n credu na ddylai'r wladwriaeth ddyrchafu crefydd, ac yn arbennig felly un grefydd yn benodol, uwchlaw safbwyntiau eraill.

"Gorfodi plant ysgol i weddio bob dydd (gofyniad cyfreithiol) ydi'r prif beth sy'n fy nghorddi yn hyn o beth, ond mae gwneud iddyn nhw berfformio drama ddiflas bob Rhagfyr hefyd yn dod mewn i hynny."

Mae o hefyd yn codi amheuon am werth addysgiadol drama'r Geni: "Mae'n bosibl i ddrama fod yn rhan o'r profiad addysgiadol am wn i, ond ddim yn siŵr am eu gorfodi.

"Oni'n Joseff unwaith a dwi'n cofio peidio bod yn hapus am y peth. Hyd yn oed wedyn, does dim rheswm pam na ellir perfformio dramâu neu straeon eraill yn lle. Mae 'na ddigon i gael."

Image copyright Getty Images
Image caption Ydi hi'n bryd i blant Cymru roi'r gorau i ddilyn y seren?

"Rhan o'n hetifeddiaeth"

Ond mae Gwen yn credu y byddai stopio cynnal dramâu'r geni yn gamgymeriad ac yn poeni na fyddai cenhedlaethau o blant yn "clywed am yr hanes sy'n newyddion mor wych ac yn llonni'r galon". Ychwanegodd:

"Mae'r ymateb i ymweliadau Menter Ysgolion Cymraeg ag ysgolion yn gadarnhaol iawn, gyda phlant ac athrawon yn gwerthfawrogi'r dimensiwn Cristnogol. Mae hyn yn rhan o'n hetifeddiaeth a'n goroesiad fel cenedl."

Mae Gwen yn cytuno ei bod hi'n bwysig dysgu plant Cymru am grefyddau gwahanol y byd, ond meddai:

"Mae hi'n beryglus anghofio ein hanes ninnau a'r etifeddiaeth a roddwyd i'n gofal. Arferai'r Dr Tudur Jones ddweud fod cenedl mewn gwir berygl o beidio â bod yn genedl os yw'n anghofio ei gorffennol a'i hanes.

"Bendithiwyd Cymru yn fawr yn y gorffennol, a chyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg sydd, yn fwy na dim arall, wedi cadw'r iaith yn fyw hyd yma."

Image caption Ydi gwir ystyr y Nadolig wedi ei golli?

"Cristnogion yn trio heijacio'r Nadolig"

Gyda'r nifer sydd yn mynd i wasanaethau ar y Sul yn parhau i ostwng, mae Dylan Llŷr yn dadlau fod Cymru yn wlad seciwlar ers blynyddoedd. Meddai:

"A beth bynnag, hyd yn oed petai fwyafrif o'r Cymry'n Gristnogion pybyr o hyd, ni fyddai hynny'n cyfiawnhau gorfodi'r grefydd honno ar y gweddill.

"Does gan y mwyafrif anferth o elfennau a symbolau'r Nadolig ddim byd o gwbl i'w wneud efo Cristnogaeth. Celwydd llwyr ydi'r honiad mai gŵyl Gristnogol ydi o.

"Os oes 'gwir ystyr' yn perthyn i'r Nadolig, yna hwnnw ydi gwledda efo teulu a ffrindiau, a rhannu anrhegion, er mwyn codi'r galon yn ystod y gaeaf tywyll oer. Dyna oedd ystyr y Nadolig cyn i Gristnogion drio'i heijacio, a dyna ydi o i'r rhan fwyaf o bobl o hyd."

"Mor berthnasol ag erioed"

Ond mae Gwen Emyr yn dadlau fod y stori mor berthnasol ag erioed. Dywedodd:

" Heddiw clywais am ddisgybl sy'n astudio 'lefel A' Addysg Grefyddol sydd dan yr argraff fod angen caniatâd penodol i fynychu capel neu eglwys. Dywedodd nad oedd hi erioed wedi agor Beibl er ei bod hi'n astudio hanesion o'r llyfr hwnnw!

"Mae rhoi a derbyn anrhegion yn rhan o fwyniant yr ŵyl. Ond mae dysgu plant am neges syml y Nadolig yn bwysicach o lawer. Dod yn faban i lety tlawd wnaeth yr Arglwydd Iesu pan anwyd ef ym Methlehem. Mae'r Nadolig yn gyfle naturiol i gofio hefyd am dlodion ein byd, ac mai gwell yw 'rhoddi na derbyn'."

Dydi Dylan ddim yn deall sut mae yna gymaint o rieni yn dal i fwynhau' traddodiad, meddai:

"Gwastraffu noson ganol Rhagfyr yn rhewi mewn neuadd ysgol oer er mwyn gwylio'u Steffan bach annwyl yn edrych fel lemon ofnus ar lwyfan efo tywel rownd ei ben. Dw i ddim yn rhiant eto, ond mae'n debygol mi fydda i ryw ben. Mae'r lol yma'n un peth nad ydw i'n edrych ymlaen ato."

Er hynny, mae Gwen Emyr yn gobeithio y bydd drama'r geni yn parhau i fod yn rhan ganolog o ddathliadau Nadolig y Cymry:

"Wedi'r cwbl mae hanes geni'r Gwaredwr yn rhan allweddol o hanes y Ffydd Gristnogol. Ac mae cannoedd o blant Caerdydd a'r cyffiniau, ynghyd â'u teuluoedd yr adeg hon o'r flwyddyn, yn mwynhau gweld drama'r geni yng nghapel y Tabernacl yng nghanol y ddinas.

"Gan amlaf, mae rhieni (o bob ffydd) yn falch o'r cyfle a gaiff eu plant i berfformio, yn eu hysgolion, yr hanes rhyfeddol. "

Beth bynnag yw eich barn chi am wir ystyr yr ŵyl gobeithio y cewch chi ddarllenwyr Cymru Fyw Nadolig Llawen iawn!

(Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi gyntaf ar wefan Darganfod BBC Cymru ar 23 Rhagfyr 2013)

Image caption Dathliadau Nadolig cyfoes ym Methlehem