Trenau Cymru nid er mwyn elw yn y dyfodol?

Tren Image copyright PA
Image caption Dywedodd Arriva Trains Wales eu bod yn edrych ymlaen i gydweithio gyda'r llywodraeth yn y dyfodol

Gallai gwasanaethau trenau Cymru gael eu rhedeg gan gwmni nid er mwyn elw [not for profit] yn y dyfodol, pan fydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rheolaeth o gytundeb trenau mawr, meddai'r Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart.

Bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu pwy fydd yn rhedeg cytundeb Cymru a'r Gororau, fydd yn cynnig gwasanaeth trenau ar hyd a lled y wlad a'r gororau yn 2018. Ni fydd y llywodraeth yn gyfrifol am y prif wasanaeth trenau i Lundain.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg ar hyn o bryd gan gwmni Arriva Trains Wales, sydd yn is-gwmni i gwmni trenau Almaeneg Deutsche Bahn.

'Marcsiaeth'

Dywedodd y Ceidwadwyr fod sylwadau Ms Hart yn enghraifft o'i 'Marcsiaeth'.

Wrth siarad gydag Aelodau'r Cynulliad, fe ddywedodd Ms Hart: "Rydym am wneud hyn mewn dull mor broffesiynol â phosib, ac rydym yn credu fod hyn yn ffordd fydd yn ein galluogi i wneud hyn, ac yn ddull cost-effeithiol o'i reoli hefyd."

"Rydw i yn benderfynol pan fyddwn yn mynd i drafodaeth lawn am y cytundeb y byddwn wedi paratoi ar gyfer sefydlu cwmni nid er mwyn elw. Dwi'n meddwl fod hyn yn boblogaidd o ran yr hyn y mae pobl yn ei weld," meddai.

Ychwanegodd: "Mae'n debyg y byddai'r cyhoedd yn hoff o weld y rheilffyrdd yn cael eu gwladoli, ond nid yw'r penderfyniad yna gen i."

Cafodd addewid i edrych ar ffurfio cwmni nid er mwyn elw yn rhaglen llywodraethu y Llywodraeth yn dilyn etholiadau'r Cynulliad yn 2011.

'Gwladoli'

Dywedodd Byron Davies, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr: "Mae mentrau cymdeithasol yn chwarae rôl bwysig yn yr economi Gymreig, ond yr hyn sydd fwyaf pwysig i deithwyr ar y rheilffordd ydi nid eidioleg, ond fod gwasanaethau rheilffyrdd yn cael eu rhedeg yn effeithiol ac am bris teg.

"Fe ddylai'r broses dendro ar gyfer cytundeb nesaf Cymru a'r Gororau fod yn seiliedig ar gystadleuaeth agored i unrhyw fenter gymdeithasol neu gwmni preifat sydd yn gallu cynnig gwerth am arian i drethdalwyr a gwasanaeth o safon i ddefnyddwyr y rheilffordd."

Dywedodd Aelod y Cynulliad Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth: "Rydym wedi credu ers tro fod yn rhaid i reilffyrdd weithio i bobl Cymru, ac mae'r ffordd o wneud hynny ydi rhoi'r cytundeb nesaf yn nwylo'r cyhoedd. Roedd y gweinidog yn glir fod peryglon ar y gorwel, ond o fod wedi galw am hyn yn yr etholiad diwethaf mae Plaid Cymru yn cefnogi yr opsiwn yma yn llawn."

Yn ôl llefarydd ar ran Arriva Trains Wales: "Roedd y datganiad wythnos ddiwethaf am drydaneiddio'r rheilffyrdd a throsglwyddo grymoedd yn golygu fod amser cyffrous o'n blaenau i'r rheilffyrdd.

"Mae Arriva yn gweithredu mewn 14 gwlad yn Ewrop, a phob un gyda modelau cytundebol amrywiol iawn a chyrff cleientiaid amrywiol. Rydym felly yn edrych ymlaen at y cyfle o weithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu eu cynlluniau trafnidiaeth i Gymru yn y dyfodol."