Cynghorydd Bangor gerbron llys ar gyhuddiad o flacmel

Chris O'Neal Image copyright Cyngor Gwynedd
Image caption Cafodd Mr O'Neal ei gyhuddo wedi digwyddiad honedig ym mis Rhagfyr 2013.

Fe ymddangosodd un o gynghorwyr Gwynedd gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug yn wynebu cyhuddiad o flacmel.

Mae'r cyhuddiad yn erbyn Christopher James O'Neal, 36 oed, yn ymwneud â digwyddiad honedig o fynnu £7500 gan ŵr busnes ym mis Rhagfyr y llynedd.

Mae Mr O'Neal yn gynghorydd annibynnol ac yn cynrychioli ward Marchog ar y cyngor.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn y llys ym mis Ionawr.