Plismyn yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ym Mhenygroes

Penygroes

Cafodd dau blismon driniaeth yn yr ysbyty ddydd Sadwrn ar ôl gwrthdrawiad yn oriau man y bore.

Fe wnaeth y ddau ddioddef man-anafiadau ar ôl i'w car daro wal a golau stryd am 05:30.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ym Mhenygroes, Caernarfon, gan achosi difrod mawr i'r car.

Mae ymchwiliad yn parhau, ac mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth.

Image copyright Ian Pierce