Gweilch 19-19 Racing Metro

Josh Matavesi Image copyright Huw Evans picture agency

Roedd cais hwyr gan Josh Matavesi yn ddigon i gipio gêm gyfartal i'r Gweilch yn erbyn Racing Metro yng Nghwpan Ewrop.

Y tîm o Ffrainc chwaraeodd orau yn yr hanner cyntaf, gyda Francois van der Merwe yn croesi'r linell a chicio cywir Johan Goosen.

Daeth y cais wrth i Goosen ddenu amddiffynwyr i mewn i'r sgarmes, a chreu lle i'r clo van der Merwe sgorio ar yr ochr dde.

Aeth y Gweilch dan bwysau pellach wrth i James King gael cerdyn melyn, gan roi cyfle i Goosen drosi ei drydedd gic gosb.

Prin oedd cyfleoedd y tîm cartref, ond fe wnaeth maswr Cymru, Dan Biggar y mwyaf ohonyn nhw, gan drosi dwy gic gosb a chadw'r Gweilch mewn cysylltiad erbyn yr egwyl.

Daeth cyfle gwych i'r Gweilch yn yr ail hanner wrth i Rhys Webb dorri drwy'r amddiffyn a chicio i Eli Walker, ond llwyddodd Adrien Plante i gyrraedd y bel cyn yr asgellwr.

Image copyright Getty Images

Daeth cic gosb arall i Biggar wedi amddiffyn da'r Gweilch, gan ddechrau cyfnod o chwarae da gan y tîm cartref.

Llwyddodd Biggar i leihau'r bwlch i bedwar pwynt gyda chic gosb arall, cyn i Goosen drosi gôl adlam.

Matavesi oedd yr arwr i'r Gweilch yn y munudau olaf, ar ôl i Justin Tipuric dorri drwy'r amddiffyn a phasio i Rhys Webb, cyn iddo ef fwydo'r canolwr Matavesi i sgorio o dan y pyst.

Mae'r canlyniad yn rhoi cyfle i'r Gweilch yn y gystadleuaeth, ond bydd angen canlyniad da arall ym Mharis os ydyn nhw am symud i'r rownd nesaf.