Achub person o gar yn Llyn Parc y Rhath, Caerdydd

Roath Park Lake Image copyright Eirian Evans

Roedd rhaid i griwiau tân ddefnyddio offer torri i achub person o gar oedd wedi mynd i mewn i lyn yng Nghaerdydd.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi cael ei galw i Lyn Parc y Rhath am 02:07 fore Sul.

Roedd un person yn sownd yn y car tra bod un arall wedi llwyddo i ddianc.

Fe wnaeth criwiau achub ddefnyddio rhaffau ac offer arbenigol er mwyn cyrraedd y person, wnaeth ddioddef man anafiadau.