Arestio dau wedi marwolaeth 'amheus' ym Mhen-y-bont

Heddlu
Image caption Bu farw'r dyn yn Monks Close ddydd Sul

Mae dau o bobl wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn marwolaeth dyn 46 oed yn Y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod dynes 41 oed o'r Pîl a dyn 52 oed o Borthcawl wedi eu harestio ddydd Sul.

Bu farw'r dyn yn Monks Close, Y Pîl, am tua 06:00.

Mae'r heddlu yn ymchwilio, ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.

Image caption Mae'r heddlu wedi bod yn cynnal ymchwiliadau brynhawn Sul