'Toriadau ysgolion i effeithio safonau addysg'

Dosbarth ysgol

Mae prifathrawon yn rhybuddio y gall toriadau i gyllidebau effeithio ar safonau ysgolion Cymru.

Yn ôl Cymdeithas yr Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) bydd ysgolion uwchradd yng Nghymru yn wynebu diffygion o dros £1m yr un o ganlyniad i doriadau ym maes addysg.

Mae cyfarwyddwr ASCL Cymru wedi dweud bod "caledi ariannol" yn peryglu canlyniadau TGAU a Lefel A yn yr haf.

Mae llywodraeth Cymru yn dweud bod eu "hymrwymiad i gyllid ysgolion wedi bod yna ers dechrau datganoli".

'Gwelliant mewn perygl'

Mae'r llywodraeth wedi ceisio diogelu gwariant ysgolion wrth gynyddu cyllidebau o 1%, er y lleihad o 10% sydd wedi bod i gyllideb addysg, yn ôl y Gweinidog Addysg Huw Lewis.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Mr Lewis ymddiheuro am benderfyniad y llywodraeth i dynnu £4.4m o arian o gyllideb addysg er mwyn ei wario ar iechyd.

Image caption Mae gan ysgolion fwy o gostau ond llai o arian yn ôl Robin Hughes

Dywedodd cyfarwyddwr ASCL Cymru, Robin Hughes, bod ysgolion yn dechrau teimlo effaith y toriadau.

"Mae toriadau yn digwydd ochr yn ochr gyda chynnydd yn y costau y mae'n rhaid i ysgolion reoli, gan gynnwys cyfraniadau pensiwn ac yswiriant gwladol uwch," meddai.

"Mae'n rhaid i'r costau yma ddod o gyllidebau ysgolion.

"Mae safonau yn codi ond i wneud hyn mae angen buddsoddiad ac adnoddau cywir a theg. Mae rhagolygon cyllidebau ysgolion yn dangos bod gwelliant yn y dyfodol mewn perygl."

Newidiadau addysg

Yn ôl Mr Hughes, bydd ysgolion uwchradd unigol yn gweld diffyg o tua £1m erbyn 2017/18, ac "nid codi bwganod yw dweud y bydd rhaid edrych ar lefelau staffio".

Bydd newidiadau i gymwysterau TGAU yn dod i rym yng Nghymru'r flwyddyn nesaf, ac mae disgwyl i adolygiad o'r cwricwlwm adrodd yn ôl yn y flwyddyn newydd.

Image caption Cynnal safonau fydd y pwyslais yn ôl Alun Llwyd

Ond mae un pennaeth ac aelod o fwrdd cynghori'r llywodraeth yn meddwl bod y newidiadau yma dan fygythiad.

"Dwi'n meddwl, yn lle edrych ar sut i wella safonau, byddwn ni'n edrych ar sut allwn ni gynnal yr hyn sydd gyda ni'n barod," meddai Alun Llwyd, pennaeth Ysgol Dyffryn Ogwen ym Methesda.

Daw'r toriadau mewn cyfnod pan mae cronfeydd arian wrth gefn ysgolion ar eu lefel isaf ers 2001.

Dros Gymru, mae £60m wrth gefn, neu £132 i bob disgybl. Mae hynny'n lleihad o 13.9% ers y flwyddyn gynt.

'Ymrwymiad i ysgolion'

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Addysg, Simon Thomas, yn dweud na fydd y newidiadau i'r system addysg yn llwyddiannus heb gefnogaeth ariannol ddigonol.

"Mae cynllun toriadau llywodraeth San Steffan yn effeithio ar ein hysgolion a byddwn ni yn ymladd am gyllid tecach i Gymru," meddai.

Image caption Mae Simon Thomas yn dweud bod angen cefnogaeth ariannol i'r newidiadau addysg

"Pan rydyn ni'n sicrhau'r arian rydyn ni'n ei haeddu byddwn ni yn buddsoddi yn ein hysgolion i wella safonau - mwy o athrawon, mwy o lyfrau a mwy o gyfrifiaduron fel nad oes un plentyn yn cael ei fethu.

"Ond mae angen i lywodraeth Cymru amddiffyn cyllidebau ysgolion hefyd."

Siomi cenhedlaeth o bobl ifanc

Yn ôl llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Addysg, Aled Roberts: "Pan roedd ffigyrau ar gael, roedden nhw'n dangos bod y gwariant fesul disgybl yn £600 yn llai na'r gwariant yn Lloegr. Y realiti ydi y gallai'r ffigwr hwn fod yn uwch erbyn hyn.

Mae hefyd yn ychwanegu bod "y system addysg sydd heb ei gyllido'n ddigonol wedi siomi cenhedlaeth o bobl ifanc, ac ni fedrwn adael i hynny barhau i ddigwydd."

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru eu bod wedi addo mwy o wariant ar y Grant Amddifadedd Disgyblion, ac £20m ychwanegol yn y Cynllun Her Ysgolion.

"Mae ein hymrwymiad i gyllido ysgolion wedi bod yn amlwg ers dechrau datganoli.

"Ers 1999 mae gwariant awdurdodau lleol ar addysg wedi cynyddu o £1.4bn i dros £2.6bn yn 2014, cynnydd o 86% yn nhermau ariannol a 34% yn nhermau real."

Ychwanegodd: "Nid oes modd cwestiynu ein hymrwymiad i ariannu ysgolion mewn cyfnodau da a drwg."