Difrodi ceir mewn tân 'bwriadol' yng Nghaeathro

Garej Gwalia
Image caption Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn credu i'r tân yng ngarej Gwalia gael ei gynnau'n fwriadol.

Mae tri o geir wedi'u difetha a phump o geir wedi'u difrodi mewn tân amheus mewn garej yng Ngwynedd.

Fe ddechreuodd y tân yng ngorsaf betrol Gwalia ar lôn Bontnewydd, Caeathro, ger Caernarfon, toc wedi pedwar y bore.

Fe fydd yr heddlu a swyddogion tân yn dychwelyd i'r safle yn hwyrach heddiw i ymchwilio'r difrod.

Mae nhw'n amau fod y tân wedi cael ei gynnau'n fwriadol.

Chafodd neb ei anafu.