Arestio pedwar mewn cyrch cyffuriau

Heddlu
Image caption Ym mis Tachwedd, cafodd 14 o bobl eu harestio fel rhan o Ymgyrch Scorpion.

Mae pedwar person arall wedi cael eu harestio fel rhan o Ymgyrch Scorpion sy'n targedu troseddau fel gwerthu cyffuriau yn y gogledd.

Mae tri dyn rhwng 19 a 25 oed a dynes yn ei hugeiniau wedi cael eu cadw yn y ddalfa ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Adran A a B.

Fe gafodd yr heddlu warant i archwilio eiddo ym Mhorthmadog, Pwllheli a Blaenau Ffestiniog.

Ym mis Tachwedd, cafodd 14 o bobl eu harestio fel rhan o Ymgyrch Scorpion.

Dywedodd y Prif Arolygydd, Arwyn Jones, fu'n cydlynu'r arestiadau, y bydd mwy o bobl yn cael eu harestio.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.