Tri heddwas yn gwadu dwyn £30,000

Christopher Evans, Michael Stokes and Stephen Phillips Image copyright Aled Llywelyn/Athena Pictures
Image caption Mae Christopher Evans, Michael Stokes a Stephen Phillips yn gwadu lladrata

Fe fydd tri heddwas sy'n cael eu cyhuddo o ladrata £30,000 yn ystod cyrch gan yr heddlu yn wynebu achos llys y flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth y cyn dditectif sarjant, Stephen Phillips, 46 o Winchwen, Abertawe, wadu'r cyhuddiadau yn Llys y Goron Caerdydd.

Fe blediodd y ddau heddwas, Christopher Evans, 37 o Langennech, Sir Gâr, a Michael Stokes, 34, o Lyn-Nedd yn ddieuog.

Mae'r erlyniad yn honni eu bod wedi dwyn o dŷ troseddwr honedig yn Abertawe yn Ebrill 2011.

Fe gafodd y dynion eu rhyddhau ar fechnïaeth, ac mae disgwyl iddyn nhw wynebu achos llys ym mis Mehefin 2015.

Straeon perthnasol