Apêl am Mohamud Hassan

Hassan
Image caption Mae Hassan, 18 oed, wedi cael ei alw'n ôl i'r carchar.

Mae'r heddlu yng Nghaerdydd yn apelio am wybodaeth i geisio dod o hyd i Mohamud Hassan.

Mae Hassan wedi cael ei alw'n ôl i'r carchar.

Mae gan Hassan, sy'n 18 oed, gysylltiadau gydag ardaloedd Trebiwt a Glan yr afon yn y brifddinas.

Mae gofyn i unrhywun sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555111 gan nodi cyfeirnod 1400339600.