Trafod dymchwel gwesty cofrestredig

Gwesty'r Grange, Y Rhyl Image copyright Jim Macrae
Image caption Fe wnaeth tân ddinistrio rhan sylweddol o Westy'r Grange yn Y Rhyl yn 2008

Bydd cynghorwyr Sir Ddinbych yn gwneud penderfyniad ddydd Mercher a fyddan nhw'n dymchwel hen westy gafodd ei ddifrodi'n sylweddol gan dân chwe blynedd yn ôl.

Roedd adeilad hanesyddol Gwesty'r Grange yn Y Rhyl, sy'n dyddio o 1840, yn adeilad cofrestredig Gradd II cyn i'r tân gael ei gynnau'n fwriadol yno ym Mawrth 2008.

Fe wnaeth hynny achosi i ran o'r to ddymchwel, ac mae'r adeilad wedi bod yn wag byth ers hynny, ac mae'n darged i fandaliaid.

Mae swyddogion Cyngor Sir Ddinbych wedi argymell cymeradwyo'r cynllun i'r ddymchwel.

Straeon perthnasol