Tân ceir Caeathro yn fwriadol

Garej Gwalia
Image caption Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r rhesymau posib am y tân

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod yn trin y tân mewn garej yng Nghaeathro, ger Caernarfon fore Llun fel un bwriadol.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Iestyn Davies: "Rydym yn ymwybodol bod cerbyd penodol wedi cael ei dargedu ac rydym yn ymchwilio i'r rhesymau posib.

Fe ddechreuodd y tân yng ngorsaf betrol Gwalia ar lôn Bontnewydd, Caeathro, ger Caernarfon, toc wedi 4:00am.

Roedd tri o geir wedi'u difetha a phump o geir wedi'u difrodi yn y tân.

Ychwanegol y Prif Arolygydd: "Yn y cyfamser, rydym yn apelio ar unrhywun oedd yn ardal Garej Gwalia rhwng 2.30 a 4.00 y bore a welodd unrhywbeth amheus, pobl ar droed neu mewn cerbyd, i gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn anhysbys ar 0800 555 111."

Straeon perthnasol