Cytundeb deuol: Lydiate yn ymuno â'r Gweilch

Dan Lydiate a Roger Lewis Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Dan Lydiate wedi arwyddo cytundeb deuol ag Undeb Rygbi Cymru a rhanbarth, gan ymuno â'r Gweilch o Racing Metro.

Lydiate yw'r ail chwaraewr i arwyddo cytundeb o'r fath ar ôl Sam Warburton, ond ef yw'r cyntaf i wneud ers i Undeb Rygbi Cymru a Rhanbarthau Rygbi Cymru gyrraedd cytundeb am gyllido'r gamp.

Fe arwyddodd y blaenasgellwr 26 oed y cytundeb yn dilyn 17 mis yn Ffrainc.

Mae gan Lydiate 41 cap rhyngwladol i Gymru.

Fe fydd yn dechrau hyfforddi gyda'r Gweilch yr wythnos hon.