Cwest bachgen ysgol yn clywed honiadau o fwlian

Simon and Julie Brooks Image copyright Julie Brooks
Image caption Mae mam Simon Brooks yn honni iddo gael ei fwlio yn yr ysgol

Clywodd cwest fod bachgen ysgol, mae ei rieni yn honni iddo gael ei fwlio, wedi cymryd gorddos o dabledi gan ddweud wrth ei fam "rwy' wedi cael digon o gael fy mhigo arno."

Bu farw Simon Brooks, 15 oed, o Donyrefail, Rhondda Cynon Taf, pedwar diwrnod ar ôl cymryd tabledi, gan adael neges yn dweud ei fod yn cael ei fwlio.

Dywedodd Mrs Brooks wrth y cwest: "Dywedodd wrthyf fi ei bod o'n difaru gwneud yr hun wnaeth e, a bod e'n beth gwirion iddo wneud."

Dywedodd Graeme Hughes, dirprwy grwner y Cymoedd nad oedd union fwriad Simon wrth gymryd y tabledi yn glir.

Fe wnaeth Mr Hughes gofnodi rheithfarn naratif fod Simon "wedi marw o hunan anafu bwriadol, ond nad oedd yr union fwriad yn glir. "

Ar ôl y gwrandawiad dywedodd Mrs Brooks: "Rwy'n grediniol nad oedd o'n bwriadu lladd ei hun, ac rwy'n hapus iawn gyda'r rheithfarn.