Oedd Dylan Thomas yn haeddu'r holl sylw?

Dylan Thomas Image copyright Francis Reiss/PicturePost/Getty
Image caption Cafodd bywyd a gwaith Dylan Thomas ei ddathlu ar draws y byd eleni - ond oedd y bardd yn haeddu'r holl sylw?

Mae'r bardd o'r Uplands wedi bod yn wyneb hollbresennol drwy gydol 2014. Ond canrif ers ei enedigaeth, a oedd Dylan Thomas yn haeddu'r sylw eleni, ac a ydy'r dathliadau di-ri wedi cynnwys parch teilwng at ei waith?

Yn sicr roedd hi'n anodd osgoi ei enw ym mhrif ddigwyddiadau diwylliannol y flwyddyn. Boed hynny yn rhan o wyliau penodol yn Abertawe, Talacharn ac Efrog Newydd, yn yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Gelli Gandryll, neu drwy wylio amryw gynhyrchiadau newydd ar lwyfannau o'r Wyddgrug i Washington DC.

Roedd ei bresenoldeb hefyd yn sylweddol ar y cyfryngau - sgyrsiau, dramâu a rhaglenni ffeithiol ar y radio a'r teledu yn craffu ar ei fywyd, ac roedd y papurau'n llawn darganfyddiadau newydd - yn hysbysebu'r dyn a'i waith, ond hefyd yr ocsiwn oedd gan amlaf yn dilyn.

Rhaid i fi gyfaddef i ambell gynhyrchydd newyddion ochneidio wrth i mi geisio eu darbwyllo i gynnwys "un stori arall" am ganmlwyddiant Dylan Thomas dros y 12 mis diwethaf.

Yn 2013 fe basiodd canmlwyddiant R.S. Thomas gyda llai o ffanffer, ac yn dawelach byth oedd dathliadau pen-blwydd dramodydd y cymoedd Gwyn Thomas.

O'r Tomosiaid, Dylan sydd wedi hawlio'r sylw i gyd.

Image caption Un o'r rhai fu'n cwestiynu'r holl sylw gafodd Dylan Thomas oedd y Prifardd Twm Morys

Pwyso a mesur

Roedd y Prifardd Twm Morys ymhlith y rhai â theimladau cymysg am bwysigrwydd Dylan.

Mewn blog ar Cymru Fyw, dywedodd fod cyrff cyhoeddus wedi neilltuo arian i ddathlu'r canmlwyddiant "ar draul pob mathau o weithgareddau eraill drwy Gymru, ac ar draul gwaith beirdd sy'n dal yn fyw."

Fe fynegodd siom fod canmlwyddiant R.S. Thomas yn 2013 wedi pasio heb yr holl gynnwrf.

Ond roedd y cyfle i ailddarllen gwaith y gŵr o Gwmdonkin Drive eleni yn agoriad llygaid iddo.

"Roedd gwefr o hyd yn y cerddi hynny mae pawb yn gwirioni arnyn nhw," meddai.

"Ond gwefr hefyd mewn cerddi oedd yn dywyll imi cynt."

Colli cyfle?

Bu'r athro John Goodby, o Brifysgol Abertawe, yn ymgynghorydd ar gyfer nifer o ddigwyddiadau'r canmlwyddiant.

Dwedodd fod cyrff hyrwyddo - yn benodol Llenyddiaeth Cymru a'r Cyngor Prydeinig - wedi dewis "anwybyddu" cyfle i greu gwaddol parhaol eleni.

Mewn erthygl i gylchgrawn Poetry Wales, dywedodd fod canmlwyddiant Dylan Thomas yn gyfle "nid yn unig am naw niwrnod rhyfeddol, ond i gynyddu lefelau diwylliannol Cymru - yn wir, ffordd o ddangos fod Cymru'n cymryd diwylliant o ddifri, yn ogystal â bod yn wlad sy'n gwybod sut i werthu ei hun, ac i fwynhau."

Ond ychwanegodd fod y ddau gorff "wedi penderfynu anwybyddu'r" cyfle.

Fe wnaeth y cyrff amddiffyn eu gweithgareddau.

Dadl Llenyddiaeth Cymru oedd bod perfformiadau a theithiau dan faner y cwmni eleni wedi annog cynulleidfa newydd i flasu gwaith Dylan Thomas, a'r Cyngor Prydeinig yn dweud mai bwriad eu cynllun byd-eang oedd hyrwyddo Dylan Thomas yn ogystal â beirdd a chantorion Cymreig cyfoes.

Ac er ei amheuon am y rhaglen swyddogol, roedd 'na reswm i ddathlu, yn ôl yr Athro Goodby:

"Ar bwrpas ai peidio, mae wedi troi'n ddathliad ledled Cymru, neu'n garnifal, 15 mlynedd ers dyfodiad y Cynulliad."

I buryddion Dylan, mae rhai o ddathliadau eleni wedi dibynnu'n ormodol ar chwedlau ei fywyd, a'i farwolaeth.

Efallai mai gwir ffon fesur y canmlwyddiant yw'r nifer sydd nawr yn teimlo mor gyfforddus wrth drafod gwaith Dylan Thomas ag y maen nhw wrth glebran am ei bersonoliaeth.

Image copyright Pablo Star Limited (Ireland)
Image caption Dylan Thomas a'i wraig Caitlin cyn eu priodas yn 1937

Straeon perthnasol