Saith peth Cymreig am 'The Hobbit'

Luke Evans fel Bard yn The Battle of the Five Armies Image copyright Warner Bros. Entertainment Inc.
Image caption Y Cymro Luke Evans yw un o sêr The Battle of the Five Armies

Wrth i The Hobbit: The Battle of the Five Armies lenwi sinemâu o fis Rhagfyr ymlaen, nid Luke Evans o Aberbargoed, pobl fach flewog a draig fydd yr unig bethau Cymreig am y ffilm.

Hon ydy'r olaf yng nghyfres o ffilmiau The Lord of The Rings a The Hobbit gan y cyfarwyddwr o Seland Newydd, Peter Jackson, wedi eu haddasu o waith yr awdur ffantasi Saesneg JRR Tolkien.

Mae pobl sydd wedi astudio gwaith Tolkien yn cytuno bod llawer o'r fytholeg a grëodd yn ei straeon wedi ei dylanwadu gan Gymru, y Gymraeg a'i chwedlau.

Fe ofynnodd Cymru Fyw i ddau arbenigwr am ddylanwad Cymru ar The Hobbit - David Salo, yr ieithydd o'r Unol Daleithiau sy'n gyfrifol am gyfieithu ieithoedd dychmygol ffilmiau Peter Jackson a Dr Dimitra Fimi o Brifysgol Metropolitan Caerdydd sydd wedi astudio dylanwadau Tolkien.

Dyma saith ohonyn nhw:

1. Acen Gymreig 'Bard the Bowman'

Image copyright Mark Pokorny
Image caption Teulu bach Cymreig Dale

Fe ofynnodd y cyfarwyddwr Peter Jackson i Luke Evans gadw ei acen Gymreig i chwarae rhan yr arwr Bard the Bowman yn ffilmiau The Hobbit.

Ac am fod gan y cymeriad acen Gymreig, roedd rhaid i bawb o'i deulu o dref Dale, sy'n cael ei dinistrio gan y ddraig, fod ag acen Gymreig hefyd meddai ar Raglen Eleri Siôn ar Radio Wales:

"Fe wnaethon nhw gastio pobl yn Seland Newydd oedd o Gymru a fy nhri phlentyn [yn y ffilm] ... roedd rhaid iddyn nhw i gyd ddysgu acen Gymreig hefyd, ro'n i'n teimlo'n ofnadwy drostyn nhw!"

"Felly, mae Cymru'n rhan o'r Hobbit mewn ffordd gref iawn," ychwanegodd.

2. Yr iaith Sindarin

Image copyright Mark Pokorny
Image caption Mae Evengeline Lilly fel Tauriel ac Orlando Bloom fel Legolas yn siarad Sindarin yn ffilmiau The Hobbit

Y Gymraeg oedd prif ddylanwad Tolkien pan aeth ati i ddyfeisio Sindarin, prif iaith yr Elves yn y ffilmiau, meddai David Salo.

"Dylai Sindarin, os yw'n cael ei hynganu'n gywir, swnio'n debyg i'r Gymraeg," meddai, drwy hud a lledrith cyfieithu.

Fe wnaeth Tolkien ddyfeisio nifer o ieithoedd newydd yn seiliedig ar ei wybodaeth o lawer o ieithoedd. Ond dechreuodd newid un o ieithoedd byd yr Hobbits i fod debycach i'r Gymraeg.

"Ym mron pob achos, daeth y newidiadau â'r iaith yn debycach i'r Gymraeg o ran sŵn, a gallwn ddweud fod yr iaith derfynol, y galwodd Tolkien hi'n Sindarin, wedi ei hysbydoli gan y Gymraeg yn fwy nag unrhyw iaith arall," meddai.

Mae hi wedi ei seilio ar batrymau a sŵn y Gymraeg ac yn cynnwys y treiglad meddal a threigladau eraill tebyg i'r Gymraeg, meddai Mr Salo, sydd wedi astudio esblygiad y Gymraeg ei hun.

Yn ôl Mr Salo bydd mwy o gyfle i glywed synau'r Gymraeg yn y ffilm olaf yma gan fod mwy o Elves sy'n siarad yr iaith Sindarin ynddi ac yn cymryd rhan yn y frwydr fawr olaf i achub Middle Earth.

"Roedd sŵn yr iaith yn amlwg wedi gwneud argraff ar Tolkien," meddai David Salo, "yn ogystal â'r ffaith ei fod yn gwbl ddieithr i Saesneg, ac eto yn gwbl gartrefol ym Mhrydain."

3. Dylanwadau cynnar Tolkien

Cafodd Tolkien ei fagu y tu ôl i orsaf reilffordd ym Mirmingham ac yn gynnar iawn cafodd ei hudo gan yr enwau Cymraeg roedd yn eu gweld ar y tryciau glo oedd yn dod yno o Gymru.

Roedd ganddo ddiddordeb mewn ieithoedd yn gyffredinol ac wedi marwolaeth ei rieni cafodd ei roi yng ngofal ei offeiriad Catholig a oedd yn hanner Cymro, hanner Sbaenwr. Yn ôl Dr Dimitra Fimi fe ddysgodd ddigon ganddo am y Gymraeg i gael rhyw fath o afael ar yr iaith.

Aeth ymlaen i astudio mwy ar y Gymraeg pan oedd yn ddarlithydd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn ôl Dr Fimi gallai ddarllen hen Gymraeg. Roedd ganddo sawl copi o'r Mabinogion, llyfrau gramadeg Cymraeg a llawysgrifau Cymraeg eraill fel Llyfr Du Caerfyddin.

Roedd Tolkien hefyd wedi dysgu Cymraeg y canoloesoedd i fyfyrwyr ym Mhifysgol Leeds am gyfnod meddai Dr Fimi.

4. Daearyddiaeth Middle Earth

Image copyright Richard Sowersby/BBC
Image caption Roedd ardal Swydd Henffordd ger y ffin â Chymru yn gyfarwydd i Tolkien

Mae Dr Fimi yn awgrymu fod ardal Buckland, lle mae un grŵp o'r Hobbits yn byw, yn cynrychioli Cymru a'r Shire, lle mae arwr y straeon, Bilbo Baggins, yn byw, yn cynrychioli Lloegr - ffin ddaearyddol a fyddai wedi teimlo fel canolbwynt naturiol i straeon Tolkien gan iddo gael ei fagu'n agos at y Gororau rhwng Cymru a Lloegr.

"Mae'r Hobbits yn Seisnig iawn o ran eu moesau ac mae'r Shire yn swnio fel Lloegr yn oes Fictoria," meddai Dr Fimi, "ond ar ymyl y Shire mae ganddon ni'r ardal yma o'r enw Buckland lle mae'r Hobbits 'yn siarad yn rhyfedd' fel mae'n ddweud yn The Lord of The Rings, ac mae ganddyn nhw i gyd enwau sy'n swnio fel rhai Cymraeg.

"Mae'n debyg i Gymru wrth ochr Lloegr," ychwanegodd.

5. Enwau cymeriadau a llefydd

Image copyright uip film publicity
Image caption Dominic Monaghan fel Merry - Meriadoc - yn The Lord of The Rings

Mae nifer o enwau'r Hobbits sy'n byw yn Buckland yn mynd yn ôl i chwedloniaeth Gymraeg meddai Dr Fimi, er enghraifft Meriadoc, sydd â hen daid o'r enw Gorhendad.

Mae Meriadoc yn cael ei alw'n Merry ac yn cael ei chwarae gan Dominic Monaghan yn The Lord of The Rings.

Yn ôl David Salo hefyd, mae cangen arall o'r Hobbits, sef y Stoors, yn dangos dylanwad Cymru. Roedden nhw'n arfer siarad yr un iaith â phobl Dunlending, cymuned glós a dieithr sy'n byw i'r gorllewin. Bwriad Tolkien oedd eu bod yn "cynrychioli parhad yr hen linach Geltaidd a'r iaith Geltaidd sydd i'w gweld mewn rhai enwau lleoedd yn Lloegr," meddai Mr Salo.

A beth am yr enwau llefydd Dol Guldur, Nen Hithoel a Parth Galen? Geiriau Cymraeg ond nid yr un ystyr meddai Dr Fimi: "Mae'r iaith wedi ei modelu ar Gymraeg gan Tolkien o ran sŵn a gramadeg ond does 'na ddim geiriau Cymraeg y byddai rhywun yn eu hadnabod, er y byddech yn adnabod sŵn yr iaith ... ac mae'n bosib bod 'na homoffonau."

6. Yr Elves - 'trigolion gwreiddiol Ynysoedd Prydain'

Image copyright Warner Bros. Entertainment Inc.
Image caption Cate Blanchett sy'n actio brenhines yr Elves

"Roedd yr Elves, o leiaf ar un cam yn y chwedloniaeth, yn cael eu darlunio fel trigolion gwreiddiol Ynysoedd Prydain cyn i bobl ddod yno; ac fe allai fod y blas Cymreig yma yn adlais o hynny," meddai David Salo am y bodau sy'n byw am byth.

Maen nhw'n cael eu gweld, meddai, mewn ffordd ramantiedig iawn o safbwynt yr Hobbits 'Seisnig' yn byw yn bell i ffwrdd i'r gorllewin, tu hwnt i'r afon Lhûn, "sy'n debyg i'r afon Hafren mewn mannau", a'r Mynyddoedd Glas - efallai'n cynrychioli'r Mynyddoedd Duon?

Ychwanegodd David Salo "nad oedd ganddo amheuaeth mai'r prif reswm y dewisodd Tolkien greu mytholeg gydag elves neu dylwyth teg yn ganolog iddi, hynny ydy, bodau goruwchnaturiol gyda phwerau hud a phrydferthwch rhyfeddol, ydy am fod creaduriaid o'r fath yn ymddangos mewn chwedlau Cymraeg a Gwyddelig."

"Ond maen nhw'n brin mewn hen lenyddiaeth Saesneg er fod yna olion yma ac acw mewn cyfundrefnau enwi ac esboniadau, sy'n awgrymu bod 'elves' wedi bod unwaith yn ffigyrau pwysig mewn mytholeg sydd bellach ar goll," meddai.

7. The Red Book of Westmarch - Llyfr Coch Hergest?

Image copyright coleg yr iesu, rhydychen
Image caption Dywedir for Tolkien wedi astudio Llyfr Coch Hergest (Llun drwy garedigrwydd Prifathro a Chyfeillion Coleg yr Iesu, Rhydychen)

Mae tystiolaeth fod Tolkien wedi defnyddio un o hen lawysgrifau pwysicaf Cymru, Llyfr Coch Hergest, fel ysbrydoliaeth i'w chwedloniaeth.

Fe ddyfeisiodd Tolkien stori fod chwedlau'r Hobbits wedi eu canfod mewn llawysgrif ffug o'r enw The Red Book of Westmarch - enw sydd wedi ei seilio mae'n debyg ar y Llyfr Coch yr oedd Tolkien wedi ei weld yn Llyfrgell Bodleian, Rhydychen, lle mae'n cael ei gadw.

Yn dyddio nôl i 1382, mae'r llawysgrif yma'n cynnwys straeon o'r Mabinogion a barddoniaeth y Gogynfeirdd.

Ond er y dylanwadau yma, mae Dr Fimi yn pwysleisio mai Hen Saesneg a Hen Norseg yw prif ddylanwadau Tolkien.

Ac yn eironig, ceisio creu mytholeg Saesneg oedd ar goll yn Lloegr oedd Tolkien pan aeth ati i greu byd chwedlonol Middle Earth.

"Roedd yn teimlo fod na fwlch ym mytholeg Lloegr o'i gymharu â Chymru ac Iwerddon a'r gwledydd eraill ac ar y cyfandir hefyd. Mae llawer o'r hyn y byddai'r Eingl-Sacsoniaid wedi credu ynddo wedi ei golli," meddai Dr Fimi.

Mae David Salo yn cytuno: "Roedd y dylanwad Celtaidd ar Tolkien yn fawr, ond bob amser wedi ei leddfu gan ei fwriad i greu mytholeg Saesneg benodol," meddai.

Ond wrth wneud hynny, fe gododd ei gap i chwedlau a diwylliannau gwledydd eraill gwledydd Prydain gyda'r Elves hynafol yn benodol, gyda'u hiaith Sindarin/Cymraeg, yn ein hatgoffa o gyfnod Celtaidd yn hanes Ynysoedd Prydain cyn bodolaeth Lloegr.

Tybed beth fyddai wedi digwydd pe bai'r tryciau glo heb ddod heibio Birmingham?

Cliciwch yma i ddarllen cyfweliad llawn gyda David Salo yn trafod 'The Hobbit'

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.