Tolkien, 'The Hobbit' a'r Gymraeg

Image copyright Warner Bros. Pictures
Image caption The Hobbit: The Battle of The Five Armies

Cyfweliad llawn BBC Cymru Fyw, wedi ei gyfieithu o Saesneg, gyda'r ieithydd David Salo, cyfieithydd ffilmiau The Lord of the Rings a The Hobbit am ddylanwad Cymru ar weithiau JRR Tolkien.

Fedrwch chi egluro beth oeddeich gwaith ar ffilmiau The Lord of the Rings a The Hobbit?

Roeddwn i'n gwneud y cyfieithiadau o linellau deialog a geiriau caneuon o Saesneg i amryw o ieithoedd sy'n gysylltiedig â Tolkien. Yn bennaf, ieithoedd Elvish - Quenya a Sinadrin - a fersiynau neu bortread o iaith y Dwarfs, sef Khuzdul, a nifer o'r ieithoedd sy'n cael eu siarad gan yr Orcs.

Roeddwn i'n delio gyda'r ddwy iaith gyntaf, gymaint ag y gallwn, o fewn ffiniau'r wybodaeth gan Tolkien amdanyn nhw sydd wedi ei chyhoeddi; roedd angen ryw fymryn o ychwanegiadau weithiau e.e. i ehangu'r eirfa neu ddelio gyda strwythurau gramadegol nad ydyn nhw i'w cael yng ngwaith Tolkien.

Pam bydd llawer o'r deialog, yn ogystal ag enwau llefydd a phobl, yn ffilmiau Tokien yn swnio'n gyfarwydd i siaradwyr Cymraeg?

Roedd ieithedd Elvish Tolkien yn ddyfeisiadau newydd, yn deillio o'r hyn roedd o ei hun yn ei hoffi o ran strwythur ac arddull ffonetig y gwahanol ieithoedd roedd yn eu gwybod.

Er nad ydyn nhw'n deillio'n uniongyrchol o un iaith, maen nhw'n dangos dylanwadau clir. Yn achos Quenya, roedd y dylanwadau'n amrywiol, ond y rhai sylfaenol ydy Groeg, Lladin, Gothig a Ffineg.

Quenya oedd yr iaith gyntaf iddo'i chreu (ynghanol y 1910au), ac er ei bod wedi ei hailwampio a'i diweddaru nifer o weithiau yn ystod bywyd Tolkien, fe gadwodd nifer o nodweddion arbennig, yn enwedig yn ffordd mae'n swnio, sy'n gwneud brawddeg Quenya yn hawdd i'w hadnabod, waeth pryd cafodd ei hysgrifennu.

Mae gan Sindarin hanes llai sefydlog. Doedd Quenya ddim yn llwyr fodloni angen Tolkien i fynegi ei hun yn ieithyddol. Felly, mi aeth ati i greu ail iaith, a fyddai, mewn theori, â gwreiddiau'n gyffredin gyda Quenya, ond a fyddai wedi datblygu ar hyd llwybrau hollol wahanol.

Un o'r nodweddion y dewisodd ei rhoi iddi a fyddai'n ei gwahaniaethu oddi wrth Quenya oedd newid cytseiniaid yn gyson rhwng llafariaid: daeth stopiau di-lais yn rhai oedd yn cael eu lleisio, tra daeth stopiau lleisiol yn seiniau ffrithiol lleisiol, neu wedi eu dileu.

Mae hyn yn ddatblygiad digon cyffredin yn nifer o ieithoedd y byd, ond dylanwadau tebygol Tolkien ydy ieithoedd Romans y Gorllewin (e.e. Ffrangeg, Sbaeneg, Portiwgeeg, Catalaneg) a ieithoedd y Celtiaid Brythonig (Cymraeg, Llydaweg a Chernyweg).

Gan i Tolkien ddewis ymestyn y newidiadau yma i greu amrywiadau yng nghytsain gychwynnol gair yn dilyn y fannod ac arddodiaid ('y', 'yr', 'a', 'i' etc) - amrywiadau tebyg i'r treiglad meddal a threigladau eraill yn Gymraeg - mae hi'n glir mai'r ieithedd Celtaidd oedd y prif ddylanwad.

Ond nid Sinadrin oedd yr iaith yma fodd bynnag. Galwodd Tolkien hi'n 'Goldogrin'; ac roedd yn wahanol iawn i Gymraeg a ieithoedd Celtaidd eraill mewn nifer o ffyrdd; mewn rhai ffyrdd roedd yn agosach i'r ieithoedd Germanaidd. Roedd Tolkien wedi cwblhau geirfa eang yn yr iaith a dechrau gweithio ar fraslun gramadegol cyn diwedd y 1910au; ond yna'n sydyn dechreuodd weithio ar newidiadau mawr.

Yn y pen draw arweiniodd rhain at newid ei gwreiddiau sylfaenol yn ogystal â datblygiad graddol ei hanes, fel y gallwn ddweud ei bod wedi ei thrawsnewid yn y diwedd i rywbeth newydd. Cafodd y treigliadau cytseiniol eu haddasu a'u ehangu i gynnwys mwy o synau.

Cyflwynwyd yr arfer o dreiglo llafariaid mewn gwahanol ffyrdd. Dydi hyn ddim yn digwydd mewn Goldogrin. Un o'r rhain oedd newid llafariaid wrth newid o'r unigol i'r lluosog, er enghraifft 'adan:edain' (dyn, dynion) ac 'orod:eryd' (mynydd, mynyddoedd). Ac mae'r un peth i'w weld cyn rhai ôl-ddodiaid e.e. 'aglar' (gogoniant), 'eglerio!' (gogoneddu!).

Cafodd deuseiniaid newydd fel 'ae' ac 'oe' eu cyflwyno. Ym mron pob un achos, daeth y newidiadau â'r iaith yn agosach at Gymraeg o ran sŵn, a gallwn ddweud fod yr iaith derfynol, y galwodd Tolkien hi'n Sindarin, wedi ei hysbrydoli'n uniongyrchol gan Gymraeg yn fwy nag unrhyw iaith arall.

O ganlyniad, dylai Sindarin, o'i hynganu'n gywir, swnio'n debyg i'r Gymraeg, er na allaf gyfeirio at unrhyw air penodol a ddaeth yn y uniongyrchol o'r Gymraeg.

Oedd yna strwythur a geirfa wedi ei chreu yn barod ichi neu oedd raid ichi greu geiriau, enwau nau batrymau iaith newydd sbon? Ddaru eich astudiaeth o'r Gymraeg helpu o ran hynny?

Roedd cymaint o'r cyfieithu ar gyfer y ffilm â phosib wedi ei seilio ar eirfa o weithiau Tolkien ei hun, gyda strwythur gramadegol wedi ei seilio ar frawddegau a barddoniaeth a gyfansoddodd yn ei ieithoedd.

Yn achos Sindarin, roedd hyn yn golygu peth anhawster, gan nad oedd 'na'r un faint o dystiolaeth yn union â Quenya.

Fodd bynnag, gan fod Quenya a Sindarin, mewn theori, yn dod o wreiddiau cyffredin, roedd yn aml yn bosib ehangu geirfa Sinadrin drwy gymharu gyda Quenya. Wrth gwrs, roedd hynny'n golygu bod â dealltwriaeth dda iawn o hanes mewnol y ddwy iaith; byddai rhaid i mi ddehongli ffurf hynafol gair Quenya, ac yna'i newid yn ôl y datblygiadau y bwriadai Tolkien ar gyfer hanes yr iaith. Wrth weithio allan sut roedd Sinadrin wedi datblygu, roedd fy astudiaeth o esblygiad y Gymraeg o'i gwreiddiau Celtaidd - fel mae ysgolheigion wedi ei ail-greu - yn help i mi.

Er fod yna nifer o wahaniaethau yn y manylion rhwng Sindarin a Chymraeg (yn enwedig yn natblygiad eu llafariaid) roedd gwybod sut roedd Cymraeg wedi esblygu yn help i mi roi strwythur a phwynt cymharu ar gyfer dehongli hanes Sindarin.

Mae nifer o enwau llefydd yn y gwaith hefyd yn eiriau Cymraeg, neu'n swnio fel geiriau Cymraeg- Parth Galen, Amon Hen, Nen Hithoel, Dol Guldur - fedrwch chi sôn am unrhyw eiriau 'Cymraeg', neu sy'n swnio felly, yn y ffilmiau?

Ar gyfer y ffilmiau cynharach fe wnes i greu llinellau fel "lastannem i athrannedh i Vruinen" — "Fe glywson ni i chi groesi'r Fruinen." Mae'r tebygrwydd gyda Chymraeg yn cynnwys defnydd aml o synau fel 'th' a 'dh' (sydd fel 'dd' yn Gymraeg); y ddeusain 'ui' (sydd fel 'wy' yn Gymraeg, er fod iddo darddiad gwahanol); a threiglo 'B' yn 'Bruinen' i 'V' ('f' yn Gymraeg).

Un peth sy'n annhebyg ydy diffyg treiglo 'l-' ar flaen gair mewn nifer o lefydd lle byddai gan y Gymraeg 'll-'. Er fod gan Sindarin sŵn tebyg (y dewisodd Tolkein ei sillafu fel 'lh') y mae'n llawer prinnach na ll.

Faint o ddylanwad ydych chi'n meddwl gafodd Cymru neu ddiwylliannau Celtaidd ar Tolkien?

Roedd y dylanwad Celtaidd ar Tolkien yn fawr iawn, er ei fod wedi ei leddfu gan ei fwriad i greu mytholeg benodol i Loegr.

Does gen i ddim amheuaeth mai'r prif reswm y dewisodd Tolkien greu mytholeg gydag elves neu dylwyth teg yn ganolog iddo - hynny ydy, bodau goruwchnaturiol gyda phwerau hud a phrydferthwch rhyfeddol - ydy am fod creaduriaid o'r fath yn ymddangos mewn chwedlau Cymraeg a Gwyddeleg. Ond maen nhw'n brin mewn hen lenyddiaeth Saesneg er fod yna olion yma ac acw mewn cyfundrefnau enwi ac esboniadau, sy'n awgrymu bod 'elves' wedi bod unwaith yn ffigyrau pwysig mewn mytholeg sydd bellach ar goll.

Mae Cymru a'r Gymraeg yn ymddangos mewn nifer o wahanol ffyrdd yn The Lord of the Rings. I ddechrau yn yr Elves, mewn ffordd ramantiedig iawn, sy'n cael eu gweld o safbwynt yr Hobbits 'Seisnig' yn byw yn bell i ffwrdd i'r gorllewin, tu hwnt i'r afon Lhûn, (sy'n debyg i'r afon Hafren mewn mannau) a'r Mynyddoedd Glas.

Yn ail pobl Dunlending, sy'n cael eu gweld o safbwynt y Rohirrim, sy'n siarad Hen Saesneg, fel cymuned glós, ddieithr, elyniaethus ac hefyd yn byw i'r gorllewin tu hwnt i afon a mynyddoedd.

Yn drydydd, ffynhonnell cangen o'r Hobbits o'r enw y Stoors (sy'n cynnwys y Brandybucks), a arferai siarad yr un iaith â'r Dunlendings. Bwriad Tolkien oedd eu bod yn cynrychioli parhad yr hen linach Geltaidd a threfn enwi mewn rhai llefydd yn Lloegr. Mae presenoldeb enwau Celtaidd, neu led-Geltaidd, fel 'Meriadoc' ymysg yr Hobbits yn deyrnged i'r darn bach yma o Gymreictod.

Ydych chi'n meddwl fod yna reswm penodol pam fod Tolkien wedi dewis Cymraeg fel dylanwad ar yr Elves yn ei fytholeg?

Yn rhannol mae'n debyg am mai'r Gymraeg ydy'r iaith gynharaf, nad oedd yn Saesneg, y daeth Tolkien ar ei thraws yn gynnar yn ei fywyd.

Ysgrifennodd ei fod wedi ei gyfareddu gan yr enwau Cymraeg a welodd ar ochrau'r "tryciau glo" pan oedd yn plentyn; er na wnaeth ddechrau astudio Cymraeg tan flynyddoedd yn ddiweddarach.

Roedd sŵn yr iaith yn amlwg wedi gwneud argraff ar Tolkien yn ogystal â'r ffaith ei bod yn gwbl ddieithr i Saesneg, ac eto'n gwbl gartrefol ym Mhrydain.

Roedd yr Elves, o leiaf ar un cam yn y chwedloniaeth, yn cael eu darlunio fel trigolion gwreiddiol Ynysoedd Prydain cyn i bobl ddod yno; ac fe allai fod y blas Cymreig yma yn adlais o hynny.

Ond, yn bennaf, dwi'n credu mai hoffi sŵn yr iaith Gymraeg oedd Tolkien, fel mae nifer o bobl eraill, boed yn Gymry neu beidio.

Pa bethau 'Cymreig' sydd 'na ini edrych ymlaen atyn nhw yn y ffilm Hobbit newydd?!

Fe fydd 'na fwy o Elves sy'n siarad Sindarin o Mirkwood, sydd yn cymryd rhan yn y frwydr olaf.

Rydw i wedi cyfieithu eitha' dipyn o ddeialog iddyn nhw a geiriau i ganeuon y gallech chi eu clywed yn y cefndir mewn rhai golygfeydd.

Mae David Salo yn ieithydd sydd wedi astudio nifer o ieithoedd gan gynnwys rhai J.R.R. Tolkien. Gweithiodd ar ffilmiauPeter Jackson, The Lord of the Rings aThe Hobbit ac mae wedi ysgrifennu llyfr am un o ieithoedd 'elvish' Tolkien, A Gateway to Sindarin.

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.