Dreigiau 69-17 Bucuresti

Cwpan Her Ewrop Image copyright ERC

Dreigiau 69-17 Bucuresti Wolves

Mae Dreigiau Gwent wedi sicrhau buddugoliaeth yng Nghwpan Her Ewrop heno yn Rodeny Parade.

Ar ôl syrthio tu ôl yn dilyn cais cynnar gan Vali-Catalin Mototolea, fe sicrahodd y Dreigiau bwynt bonws o fewn 23 munud.

Sgoriodd chwaraewr Cymru Tom Prydie dri o unarddeg cais y Dreigiau, gyda Geraint Rhys Jones yn trosi saith.

Daeth Jones ymlaen wedi tri munud fel eilydd yn lle Ashley Smith.

Roedd hen ddarogan wedi bod y byddai'r Dreigiau yn maeddu'r gwyr o Romania sy'n cael eu hyfforddi can y Cymro Lynn Howells.

Ond bydd her caletach o'u blaenau pan fydd y grwp yn cael ei benderfynu yn niwedd mis Ionawr 2015, lle bydd y Dreigiau yn wynebu Newcastle oddi cartref ac yna Stade Francais gartref.