Crasfa Caerdydd

Image copyright PA
Image caption Kenwyne Jones, un o sgorwyr Caerdydd

Bournemouth 5-3 Caerdydd

Mae trafferthion Caerdydd oddi cartref yn parhau ar ôl canlyniad siomedig mewn gêm gyffrous yn Bournemouth.

Dim ond unwaith mae tîm y brifddinas wedi ennill oddi cartref y tymor hwn.

'Doedd dwy gol gan Sean Morrison a gôl arall gan Kenwyne Jones ddim yn ddigon i oresgyn Bournemouth sydd wedi codi i'r brig yn y bencampwriaeth

Fe ildiodd Caerdydd ar ôl munud yn unig - ac ar ôl hynny roedd gan Gaerdydd frwydr anodd yn erbyn un o'r timau gorau yn yr adran.

Fe ddaeth tair gol yn ystod tri munud ola'r hanner cyntaf - Bournemouth yn sgorio eu hail gol cyn i Kenwyne Jones daro 'nol. Ond fe ychwanegodd Bournemouth un arall eiliadau yn unig cyn yr egwyl.

Roedd yr adar gleision yn wynebu crasfa wrth i Bournemouth sgorio pedwerydd gôl.

Am gyfnod roedd gan Gaerdydd obaith - diolch yn bennaf i ddwy gol Ravel Morison.

Ond fe wnaeth Bornemouth barhau a'u hymosodiadau - gan ychwanegu pumed gôl yn hwyr yn yr ail hanner.