Y Gwyddelod yn concro Caerdydd

caerdydd Image copyright Getty Images

Gwyddelod Llundain 34-23 Gleision Caerdydd

Mae'r Gleision wedi colli am y tro cyntaf erioed yng Nghwpan Her Ewrop.

Sgoriodd canolwr Caerdydd, Cory Allen, gais cyntaf y Gleision, ond roedd y Gwyddelod yn rheoli'r gem ar ôl i'r asgellwr Andrew Fenby groesi ddwywaith.

Fe ddaeth cais hefyd i'r maswr Shane Geraghty ar ol camgymeriad gan Gareth Anscombe.

Roedd sgrym Caerdydd o dan bwysau cyson drwy'r prynhawn - ond roedd hi'n brynhawn arbennig i'r Cymro Andrew Fenby yng nghrys Gwyddelod Llundain.

.