Racing Metro yn gryfach na'r Gweilch

Image copyright AFP

Cwpan y Pencampwyr

Racing Metro 18-14 Gweilch

Mae ymdrech ddewr y Gweilch i aros yng nghwpan y pencampwyr wedi methu ar ôl colli yn erbyn Racing Metro yn Ffrainc.

Roedd cic gosb Joannes Goosen yn yr eiliadau olaf yn ddigon i drechu ymdrechion y Cymry i daro nôl unwaith eto yn erbyn y tîm o Le Mans.

Roedd dau gais - un yr un i Rhys Webb ac Eli Walker wedi codi gobeithion y Gweilch yn yr ail hanner, ond roedd Racing yn ddigon da i wrthsefyll pwysau'r ymwelwyr.

Roedd cais Walker tua 10 munud o'r diwedd yn ddigon i sicrhau diweddglo llawn cyffro.

Fe gurodd Walker dri amddiffynnwr cyn croesi - a gydag wyth munud o fynd roedd hi'n 15-14 i'r tîm cartref.

Ond Racing gafodd y pwyntiau olaf - a'r fuddugoliaeth.

Doedd y pwynt bonws ddim yn gysur - gan ei fod bron yn sicr nawr nad oes gan y Gweilch ddigon o bwyntiau i aros yn y gystadleuaeth.