Heddlu'r Gogledd yn chwilio am wraig o Sheffield

Mae ditectifs sy'n chwilio am wraig 48 oed o Sheffield wedi dod o hyd i'w char ym Mae Colwyn.

Image copyright South Yorkshire Police
Image caption Fe ddiflanodd Michelle Webster ar ol gadael ei man gwaith bron i wythnos yn ôl

Dywedodd yr heddlu eu bod yn bryderus iawn am ei diogelwch.

Fe welwyd Michelle Webster yn gadael ei gwaith yn Sheffield brynhawn Llun diwethaf. Roedd disgwyl iddi ddychwelyd i'w chartref tua 6pm ond does neb wedi ei gweld ers hynny.

Mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth.

Yn ôl y Ditectif Arolygydd Stephen Handley "rydym yn ofnadwy o bryderus am ddiogelwch a lles Michelle ac rydym yn erfyn ar unrhywun sydd yn gweld Michelle i gysylltu â'r heddlu ar unwaith."

Nos Sadwrn, fe ddaeth swyddogion heddlu'r gogledd o hyd i gar VW Beetle Ms Webster yn ardal Bae Colwyn.

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi disgrifiad ohoni - mae'n 5.5 troedfedd o daldra ac mae ganddi wallt golau, byr.

Roedd yn gwisgo côt lwyd pan adawodd ei swyddfa tua wythnos yn ôl.