Llofruddiaeth Caergybi: Cyhuddo dyn

caergybi

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhuddo dyn 24 oed o lofruddiaeth, yn dilyn digwyddiad yng Nghaergybi ddydd Gwener.

Mae Peter Morrison Garrod wedi ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron llys ynadon Caernarfon ddydd Llun.

Bu farw David Jones yn dilyn ymosodiad yn nhafarn Blossoms yn y dre.

Mae ei deulu wedi cyhoeddi teyrngedau iddo ac wedi ei ddisgrifio fel "partner, cyfaill mynwesol, tad, brawd, ewythr, ein ffrind gorau."

Image caption Bu farw David Jones yn dilyn y digwyddiad bnawn Gwener