Ymchwil prifysgol: Traean o'r radd flaenaf

Ymchwil Image copyright Science Photo Library
Image caption Bydd y casgliadau'n cael eu defnyddio i benderfynu faint o arian mae adrannau ymchwil y prifysgolion yn ei gael

Mae ansawdd bron i draean o waith ymchwil prifysgolion Cymru o'r radd flaenaf yn fyd eang - dyna gasgliad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, sy'n cymharu gwaith holl brifysgolion Prydain.

Mae'n dangos fod Cymru wedi gwneud ychydig yn well na gweddill Prydain.

Mae'r Fframwaith yn mesur ansawdd rhywfaint o waith ymchwil, ei effaith ac awyrgylch cyffredinol holl Brifysgolion Prydain.

Mae pedwar gradd cyrhaeddiad yn rhan o'r asesiad - o'r radd flaenaf yn fyd eang lawr i safon sy'n is na'r cyfartaledd cenedlaethol.

Roedd ychydig yn llai na thraean o waith ymchwil prifysgolion Cymru yn y dosbarth uchaf, gyda hanner yn rhagorol ar lefel ryngwladol, yr ail ddosbarth.

Prifysgol Caerdydd

Roedd wyth sefydliad yng Nghymru, ynghyd â Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, wedi cyflwyno 102 o enghreifftiau i'r asesiadau, oedd yn cynnwys gwaith 1,896 aelod o staff.

Mae Prifysgol Caerdydd yn dweud eu bod nawr yn bumed yn y DU o ran ansawdd eu gwaith ymchwil, gan hawlio eu bod bellach yn rhan o'r "Triongl Euraid" sy'n cynnwys Rhydychen, Caergrawnt a Llundain, a bod y casgliadau'n cadarnhau eu lle fel un o'r prifysgolion mwya' blaengar yn y byd.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd:

"Mae'r gamp eithriadol yma yn dangos ein bod yn arweinwyr byd ac yn rhoi Caerdydd ar y map yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym yn hynod o uchelgeisiol a dydyn ni ddim ofn gosod targedau heriol.

"Mae'n rhan bwysig o'n strategaeth ar gyfer y Brifysgol, un fydd yn gweld ein henw yn cael clywed ar draws y byd er budd Caerdydd, Cymru a'r Deyrnas Unedig."

£71 miliwn

Yn ogystal â rhoi hwb i adran farchnata pob sefydliad, mi fydd y canlyniadau yn cael eu defnyddio i benderfynu faint o arian fydd yn mynd i bob adran.

Mae'r pedwar sefydliad addysg uwch yn y DU yn gyfrifol am rannu tua £2 biliwn pob blwyddyn i adrannau prifysgolion ar gyfer ymchwil.

Bydd £71 miliwn yn cael ei roi i brifysgolion yng Nghymru gan Gyngor Cyllido Addysgu Uwch Cymru, gyda degau o filiynau o bunnoedd ar gael gan ffynonellau eraill - er bod yn rhaid i brifysgolion wneud ceisiadau am yr arian hwnnw.

Yn 2012/13, roedd prifysgolion Cymru wedi derbyn £46.65 miliwn.

Ond mae 'na bryderon am faint yn union o arian fydd ar gael ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Cyllid Addysg Uwch Cymru, Dr David Blaney:

"Mae'n glir y bydd hi'n her i barhau â'r buddsoddiad mewn ymchwil yng Nghymru. Un o'r manteision posib yn sgil y canlyniadau yma yw y bydd yn hwb wrth ddadlau'r achos gyda Llywodraeth Cymru am bwysigrwydd buddsoddi mewn ymchwil.

"Ni yw'r corff sengl mwya' yng Nghymru sy'n buddsoddi mewn ymchwil ac, fel mae'r canlyniadau hyn yn dangos, mae hanner yr ymchwil hwnnw o'r radd flaenaf yn fyd eang. Felly mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl yng Nghymru a thu hwnt."

Dadansoddiad Gohebydd Addysg BBC Cymru, Arwyn Jones

"Dyma ydy'r canlyniadau sy'n cyfri i brifysgolion. Mae yna arolygon bron pob blwyddyn yn mesur bodlonrwydd myfyrwyr a safonau dysgu ac ati, ac mae rhinwedd i bob un ohonyn nhw.

Ond ymchwil ydy curiad calon pob prifysgol. Mae'r canlyniadau yma yn mesur ansawdd yr ymchwil, yr effaith ar bolisi a chymdeithas ac awyrgylch cyffredinol y sefydliadau.

Yn ogystal â phenderfynu faint o arian ymchwil fydd ar gael i bob prifysgol, mae'r canlyniadau hefyd yn hollbwysig ar gyfer yr hawl i frolio.

Yn hynny o beth, mi fydd adran farchnata Prifysgol Caerdydd wrth eu boddau eleni.

Y tu hwnt i Lundain, Caergrawnt a Rhydychen, Caerdydd sydd ar y brig o ran gwaith ymchwil holl brifysgolion Prydain rwan.

Y gobaith ydy y bydd hynny yn arwain at fwy o fyfyrwyr, academyddion mwy blaenllaw a mwy o waith ymchwil yn y dyfodol.

O holl brifysgolion Cymru, dim ond Aberystwyth sydd wedi gweld cwymp yn y tablau."