Diweithdra: Mwy heb waith yng Nghymru

Siart

Mae rhagor o bobl yn ddi-waith yng Nghymru. Yn ôl ffigyrau gafodd eu rhyddhau fore Mercher, mae 8,000 yn fwy o bobl heb waith yma.

Daw hynny â chyfanswm y bobl ddi-waith yng Nghymru i 7.1%. Ffigwr y mis diwethaf oedd 6.6%. Ers yr un cyfnod y llynedd, mae 41,000 yn llai o bobl yn gweithio yng Nghymru.

Ledled y Deyrnas Unedig, mae'r gyfradd diweithdra'n stond ar 6%, a nifer y di-waith 63,000 yn is na'r mis diwethaf.

Cymru welodd y cynnydd mwyaf mewn diwethdra o holl wledydd y DU.

Ychydig llai na dwy filiwn sy'n ddi-waith ar draws y DU bellach.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae diweithdra yng Nghymru yn is nag ar yr un adeg y llynedd {pan oedd y raddfa yn 7.4%} ac mae diweithdra ymysg pobl ifanc yn disgyn yn gynt yng Nghymru nag yn y DU gyfan.

"Mae nifer y bobl mewn gwaith yng Nghymru yn dal uwch na'r cyfartaledd hanesyddol, a nifer y bobl sy'n hawlio budd-dal ar ei raddfa isaf ers 2008."

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb bod "tuedd positif" ond bod y ffigyrau yn dangos "nad oes lle i fod yn hunanfodlon".

Yn ôl llefarydd busnes y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, William Graham AC, mae adfywiad yr economi yn "fregus".

"Gyda'r DU ar fin bod yn un o'r economïau sy'n tyfu'n gyflymaf yn y G7 a'r gyfradd diweithdra dros y DU yn disgyn eto, mae mwy y gall Llafur Cymru ei wneud i sicrhau bod Cymru yn elwa," meddai.

Dywedodd Eluned Parrott o'r Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae angen i ni ddarganfod pam bod y gyfradd diweithdra yn gostwng chwe gwaith yn gyflymach yng Nghanolbarth Lloegr a phedair gwaith yn gyflymach yn yr Alban er enghraifft."

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Rhun ap Iorwerth, mae'r ffigyrau yn awgrymu "newid cyflym a negyddol" i economi Cymru.