Darganfod Michelle Webster oedd ar goll yn y gogledd

Michelle Webster Image copyright Heddlu Sir De Efrog
Image caption Fe ddiflanodd Michelle Webster ar ol gadael ei gwaith yn Sheffield

Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod dynes oedd ar goll wedi ei darganfod yn ddiogel yng ngogledd Cymru ddydd Mercher.

Dywedodd swyddogion o Heddlu Sir De Efrog fod cerddwr wedi dod o hyd i Michelle Webster, 48, o Sheffield, a'i bod wedi ei chludo i'r ysbyty.

Yn ôl y Ditectif Uwch Arolygydd Steve Whittaker, o Heddlu Sir De Efrog: ''Rwyf wrth fy modd fod Michelle wedi cael ei darganfod ac ein bod yn gallu rhannu'r newyddion da yma gyda'i theulu, ei ffrindiau a'r cyhoedd sydd wedi bod yn gymaint o gymorth i rannu ein hapêl' meddai.

''Mae fy niolch yn fawr i'r gefnogaeth yr ydym wedi ei gael gan Heddlu Gogledd Cymru, oedd wedi ymchwilio yn fanwl ynghyd â'n swyddogion i ddod a Michelle adref yn ddiogel ar gyfer y Nadolig.''

"Fe hoffwn i ddiolch i'r cyhoedd yn Sir De Efrog ac yng Nghymru aeth ati i rannu ein hapêl mor eang ac anfon cymaint o negeseuon o gefnogaeth.

"Fe fyddwn hefyd yn hoffi diolch i'r cerddwr ddaeth o hyd i Michelle y bore 'ma ac yna cysylltu gyda'r awdurdodau," ychwanegodd.

Straeon perthnasol