Mesur Cymru bellach yn ddeddf

Y Senedd, Bae Caerdydd

Mae Mesur Cymru wedi cael sêl bendith y Frenhines, ac mae bellach yn Ddeddf Cymru 2014.

Fe wnaeth y mesur gwblhau ei daith drwy'r Senedd yn San Steffan wythnos yn ôl.

Mae'r ddeddf newydd yn golygu datganoli ystod eang o bwerau trethu a benthyg i'r Cynulliad, gan gynnwys treth tirlenwi, treth stamp (ar brynu tai), trethi busnes a pheth o'r dreth incwm (os fydd refferendwm yn cymeradwyo hynny).

Ymhlith y gwelliannau i'r mesur a gynigiwyd gan Dŷ'r Arglwyddi - ac a gafodd eu cymeradwyo yn Nhŷ'r Cyffredin - mae diddymu'r mecanwaith fyddai'n rhwystro Llywodraeth Cymru rhag codi bandiau treth incwm yn unigol (neu 'lockstep' fel y mae'n cael ei adnabod) a rhoi'r grym i'r Cynulliad benderfynu a ddylai pobl 16 ac 17 oed gael pleidleisio.

Cafodd Mesur Cymru ei gyflwyno fel modd o weithredu argymhellion rhan gyntaf adroddiad Comisiwn Silk ar ddatganoli pwerau pellach i'r Cynulliad.

Ymateb

Wrth groesawu'r ddeddf, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:

"Mae gweld Mesur Cymru'n derbyn Sêl Bendith y Frenhines yn ddiwrnod pwysig i ni gan ei fod yn nodi'r cam diweddaraf ar daith datganoli.

"Bydd y pwerau ariannol newydd, sy'n cynnwys datganoli treth stamp a threth tirlenwi, yn caniatáu i ni ddatblygu polisi treth deg ac sy'n cwrdd ag anghenion pobl a busnesau yng Nghymru.

"Fe fydd y pwerau benthyg yn rhoi arf newydd pwysig i'n cynorthwyo i gyflawni targedau i hybu ein heconomi ac isadeiledd.

"Mae Deddf Cymru 2014 yn rhoi grym i'r Cynulliad i alw refferendwm am ddatganoli treth incwm. Rwy'n croesawu hyn, ond rwy'n pwysleisio na all hyn ddigwydd tan i'r mater o gyllido teg o San Steffan gael ei ddatrys.

"Mae pob plaid yn y Cynulliad wedi cefnogi cynnig sy'n ei gwneud yn glir bod angen llawr cyllido fel blaenoriaeth, ac fe fyddwn ni'n parhau i frwydro dros hynny."

'Defnyddio'n llawn'

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb: "Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru.

"Bydd Sêl Bendith y Frenhines i Fesur Cymru yn help i greu setliad datganoli cadarn a hirhoedlog i Gymru.

"Mae'n golygu am y tro cyntaf y bydd Llywodraeth Cymru nid yn unig yn gyfrifol am yr arian y mae'n gwario, ond hefyd am godi cyfran o'r arian yna yn ogystal.

"Yr hyn sy'n bwysig nawr yw eu bod yn defnyddio'r pwerau ariannol newydd yn llawn a chyn gynted â phosib er mwyn tyfu a chryfhau economi Cymru."

'Hynod arwyddocaol'

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad, Andrew RT Davies AC: ''Mae hwn yn ddiwrnod hynod o arwyddocaol sydd yn gosod sylfaen ar gyfer Cymru gyda threthi isel.

''Mae Deddf Cymru 2014 yn ymwneud â Llywodraeth Cymru yn bod yn gyfrifol am yr arian mae'n gwario a'r arian y gall ei godi nawr. I'r Ceidwadwyr Cymreig mae'r ddeddf yma yn cynnig cyfle clir i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl a hybu'r economi''.

"Rwyf yn annog y Prif Weinidog Llafur i wneud defnydd llawn o'r grymoedd ariannol newydd a chynnig ei syniadau ei hun,'' ychwanegodd.

Dywedodd Kirsty Williams AC, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: ''Y ddeddf unigol hon yw un o'r camau mwyaf ar daith datganoli, ac fe fydd yn gwneud Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am godi cyfran o'r arian y mae'n ei wario.

"Mae angen i weinidogion Llafur Cymreig ddod i ddeall y bydd y penderfyniadau terfynol yn eu dwylo nhw.

"Y cyfle mwyaf i gyd fydd y cyfle i addasu lefelau treth incwm, fyddai'n gallu rhoi mantais gystadleuol yn economi'r DU. Rwyf yn gosod sialens i Carwyn Jones i gynnig amserlen ar gyfer pryd y bydd am i Gymru gael y pwerau hyn cyn gynted a phosib'', meddai.

Straeon perthnasol