2014: Golwg y byd ar Gymru

Carwyn Jones yn croesawu Barack Obama
Image caption Carwyn Jones yn croesawu Barack Obama i gynhadledd NATO yng Nghasnewydd

Doedd 'na fawr o gyfle i weddill y byd beidio â sylwi ar Gymru eleni - o leia' am ddeuddydd ym mis Medi - wrth i uwch gynhadledd NATO gael ei chynnal yng Nghasnewydd ac yng Nghaerdydd.

Fe ddaeth dros 150 o arweinwyr tramor - ynghyd â 10,000 o staff cynorthwyol, a 2,000 o newyddiadurwyr - i dde Cymru.

Roedd hyd yn oed yr Arlywydd Obama - â gwên fawr ar ei wyneb - yn annog pobol i ddod i Gymru. Fe gawn ni weld yr haf nesa' a fydd hynny wedi bod yn rhywfaint o hwb i'r diwydiant ymwelwyr.

Roedd 'na bwyslais hefyd ar ddenu swyddi o dramor - gydag ail gynhadledd o bwys yn cael ei chynnal yng ngwesty'r Celtic Manor ym mis Tachwedd.

Fe ddaeth hi'n amlwg wrth i honno ddechrau y byddai 1,100 o swyddi'n dod i Gymru wrth i chwech o gwmnïau fuddsoddi yma.

Cwmni ariannol Deloitte sy'n arwain y ffordd - mi fyddan nhw'n creu 700 o swyddi yng Nghaerdydd. Ac yn ôl Llywodraeth Cymru, mae mwy o fuddsoddi o dramor rŵan nag erioed o'r blaen.

Yn y flwyddyn ariannol 2013/14 - cafodd 79 o brosiectau eu denu i Gymru, a'r rheini'n creu, neu'n gwarchod, bron i 11,000 o swyddi.

Bydd cwmni CGI o Ganada yn creu 620 o swyddi ym Mhenybont - a hynny ym maes technoleg gwybodaeth.

Newyddion da - a siom

Ond os oes 'na gyhoeddiadau calonogol - mae 'na rai sy'n sicr o siomi hefyd. Felly mae bob blwyddyn, a doedd eleni ddim yn eithriad.

Fis Tachwedd, yn gwbwl groes i'r gobeithion, fe ddaeth y cadarnhad na fyddai purfa olew Murco yn Sir Benfro yn cael ei gwerthu wedi'r cyfan. Gan y bydd y gwaith puro'n dod i ben, fe fydd nifer y gweithwyr parhaol ar y safle'n gostwng o 400 i thua 60.

Image copyright Getty Images
Image caption Purfa olew Murco yn Sir Benfro

Yn Rhagfyr wedyn fe gyhoeddodd Mabey Bridge fod eu safle gwneud pontydd yng Nghas-gwent yn debygol o gau - mae 150 o bobol yn gweithio'n fanno.

Digon cymysg ydy'r darlun o ran swyddi, at ei gilydd. Yn ystod y flwyddyn, mae nifer y bobol sy'n ddi-waith wedi gostwng 7,000, â'r cyfanswm bellach yn 105,000. Ond mae nifer y bobol sydd mewn gwaith yn llai hefyd - a hynny o 41,000.

Mae'n anodd rhagweld beth fydd trywydd yr economi dros y blynyddoedd nesaf. Ar y naill law, mae chwyddiant a chyfraddau llog yn isel ar hyn o bryd - a hynny'n siŵr o fod o gymorth i bobol ar lawr gwlad. Ond eto, mae rhagor o doriadau'n siwr o fod yng ngwariant cyhoeddus - gyda'r cynghorau lleol yn teimlo effaith hynny ar hyn o bryd.

Trafnidiaeth

Fe all gwella'r profiad o deithio yng Nghymru fod o fantais i'r economi hefyd - ac fe gawson ni gyhoeddiadau go bwysig yn y maes hwnnw. Mae 'na gytundeb rŵan rhwng Llywodraethau Cymru a Phrydain ddylai arwain at gyflwyno trenau trydan ar reilffyrdd y Cymoedd, a hefyd ar y brif lein rhwng De Cymru a Llundain. Trenau glanach, teithiau cyflymach - dyna'r addewid.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dewis llwybr ar gyfer ffordd osgoi'r M4 yng nghyffiniau Casnewydd - er mae 'na anghytuno o hyd ai hwnnw fyddai'r llwybr gorau.

Gan y byddai'n costio biliwn o bunnau, fe allwn ni ddisgwyl y bydd 'na dipyn mwy o drin a thrafod cyn i'r cynllun weld golau dydd - er bod dros 20 mlynedd yn barod ers i'r syniad gael ei grybwyll gyntaf.

Image copyright Hawlfraint y Goron
Image caption Arweinwyr NATO yn y gynhadledd

Cyfraniad economaidd

Wrth i'r flwyddyn dynnu tua'r terfyn - fe ddaeth i'r amlwg mai pobol Cymru sy'n cyfrannu leia' i economi Prydain fesul pen - £16,893 ydy cyfraniad pob Cymro yn ôl y mesur hwnnw - llai na hanner cyfraniad pobol Llundain (£40,215).

Cyfraniad pobol Ynys Môn oedd y lleiaf un (£11,368). Cyfeirio'n ôl at 2013 oedd y ffigyrau hynny - ond efallai'n arwydd bod 'na fwlch i'w gau o hyd.

Mae'r arweinwyr bellach wedi dod i Gymru. Mae 'na le o hyd i fwy o swyddi, fodd bynnag - tybed ai 2014 oedd y flwyddyn y dechreuodd y buddsoddi o dramor fagu nerth.

Straeon perthnasol