Cwest Ashley Talbot wedi'i ohirio tan Ebrill 2015

Ashley Talbot Image copyright Llun teulu wedi'i rannu gan Heddlu De Cymru
Image caption Mae teulu Ashley wedi diolch am y gefnogaeth gan y gymuned

Mae cwest i farwolaeth bachgen 15 oed, a gafodd ei daro gan fws mini ger ei ysgol, wedi cael ei ohirio.

Clywodd Crwner Pen-y-bont a Chymoedd Morgannwg, Andrew Barkley, fod Ashley Talbot wedi cael anafiadau difrifol wedi'r digwyddiad ar 10 Rhagfyr.

Roedd y bachgen o Groeserw, yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn ddisgybl yn Ysgol Maesteg, Pen-y-bont.

Cafodd ei eni yng Nghasnewydd ar 14 Ebrill, 1999.

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad, yn ogystal â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Dioglewch.

Cafodd y cwest ei ohirio tan 9 Ebrill, 2015.

Yn y cyfamser, mae corff Ashley wedi cael ei ryddhau er mwyn paratoi ar gyfer ei angladd.

Straeon perthnasol