Tu ôl i'r meic

Huw Eic

Roedd 'na naws wahanol i gemau rygbi rhyngwladol Cyfres yr Hydref eleni. Doedd llais cyfoethog Huw Llywelyn Davies ddim i'w glywed ar y tonfeddi.

Gêm Cymru yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Mawrth oedd y tro olaf i'r darlledwr poblogaidd sylwebu ar gêm ryngwladol.

Ar Ŵyl San Steffan bydd portread arbennig o'r gŵr tu ôl i'r meic ar S4C. Buodd Huw hefyd yn hel atgofion am ei yrfa a'i fagwraeth yng Nghwm Tawe gyda BBC Cymru Fyw.

Image caption Dim golwg o feic yn y llun cynnar hwn o Huw!

Roedd dy dad, Eic Davies, yn ddarlledwr ac yn arloeswr wrth ddatblygu ymdriniaeth o rygbi yn y Gymraeg.Wnaeth hynny godi'r awydd ynddot ti i fod yn ddarlledwr?

Rwy'n cofio bod yn grwtyn ifanc yng Ngwauncaegurwen yn gwrando ar fy nhad yn darlledu. Er bod darlledu yn Gymraeg yn rhywbeth gymharol newydd ar y pryd, roeddwn i'n ei dderbyn e fel rhywbeth naturiol.

Ro'n i yn mynd gyda fy nhad yn aml i'r gemau ac yn mynd gydag e wedyn i'r stiwdio naill ai yng Nghaerdydd neu Abertawe tra roedd e'n darlledu adroddiadau o'r gemau. Mae'n rhaid mai i'r gwasanaeth newyddion yr o'dd e'n cyfrannu.

Alla i ddim dweud fy mod i wedi cael y teimlad fy mod i isie bod yn ddarlledwr ar ôl bod yng nghwmni fy nhad, ond mae'n rhaid bod yna wreiddyn wedi ei blannu yn rhywle.

Roedd rygbi yn dy waed di yn ifanc iawn ac mi gefaist y cyfle i feithrin dy ddoniau mewn cwmni disglair iawn.

Do. Ro'dd teulu Gareth Edwards yn byw dros yr hewl, felly ro'n i'n chwarae 'da'n gilydd bob cyfle gewn ni. Ro'dd Gareth yn athletwr penigamp a dyna sut y dechreuodd e wneud ei farc yn y byd chwaraeon. Doedd dim amheuaeth bod ganddo ddoniau arbennig iawn fel chwaraewr rygbi.

O leia galla'i ddweud fy mod i wedi chwarae yn yr un tîm â Gareth, a fi oedd y mewnwr yn y gêm. Bachwr oedd Gareth... gwell i mi ychwanegu yn fan hyn mai fi oedd y capten a'r unig aelod o banel y dewiswyr felly doedd dim dewis gydag e! Roedd yr actor Dafydd Hywel yn nhîm y gwrthwynebwyr y diwrnod hwnnw.

Image caption Huw yn ei ddyddiau fel mewnwr medrus

Ar ôl bod yn y coleg yng Nghaerdydd a threulio cyfnod fel athro yng Ngholeg Llanymddyfri mi benderfynaistymuno gyda HTV fel aelod o raglen newyddion Y Dydd.

Ie, mentro i'r byd darlledu. Dan adain Gwilym Owen, roedd yna bwyslais ar newyddiaduraeth gref a straeon Cymreig da. Wrth edrych nôl nawr mae aelodau'r tîm oedd yna yn yr un cyfnod wedi gwneud cyfraniad aruthrol i newyddiaduraeth Gymraeg - Gwyn Llewelyn, Elinor Jones, Tweli Griffiths, Vaughan Hughes, Glynog Davies, Eifion Lloyd Jones a Cenwyn Edwards yn eu plith. Mae'r rhestr yn faith!

Yn 1979 fe ges i wahoddiad i ymuno â'r BBC yn Llandaf. I Radio Cymru yr oeddwn i'n gweithio ar y dechrau - ar raglenni cyffredinol. Ro'n i'n cyflwyno rhaglen sgwrsio yn y boreau, rhaglenni i ddysgwyr a chyfresi gemau panel... 'Dyfal Donc' 'wy'n cofio oedd y gynta'. Ac yna dechreuais i sylwebu ar gemau rygbi i'r Adran Chwaraeon.

Image copyright Archif Sgrin a Sain Genedlaethol
Image caption Huw (ail o'r dde) yn ei ddyddiau cynnar ar 'Y Dydd'

Gyda sefydlu S4C mi gefais di'r fraint o wneud y sylwebaeth deledu gyntaf yn y Gymraeg ar gêm ryngwladol. Sut brofiad oedd hwnnw?

Cyffrous. Ychydig yn betrusgar. Doeddwn i ddim yn gwybod sut y byddai'r darllediad yn cael ei dderbyn gan y cyhoedd di-Gymraeg. Ond fe enillodd ei blwy' yn gyflym iawn. Roedden ni'n clywed am nifer o glybiau a thafarndai oedd yn dewis darllediad S4C o gemau Cymru.

Mae'n anodd deall heddiw faint o fenter oedd hi. Dim ond y gemau rhyngwladol oedd yn cael eu darlledu yn fyw ac roedd e'n beth mawr cael rhaglen uchafbwyntiau.

Fe frwydrodd Gareth Price am gael rhaglen yn y Gymraeg. Roedd 'Maes Chwarae' ar nos Sadwrn ond doedd rhaglen uchafbwyntiau'r rhwydwaith yn Saesneg ddim tan amser te bnawn Sul, felly ro'dd hwnnw yn ddatblygiad pwysig hefyd.

Beth oedd yr uchafbwynt?

Mae amseru yn bwysig mewn rygbi - a doedd fy amseru i ddim yn dda o gwbl! Roedd Cymru wedi ennill tair Camp Lawn yn y saithdegau a wnes i ddim dechrau sylwebu tan ro'dd yr 'Oes Aur' ar ben. Ond, ar ôl 26 blynedd o ddisgwyl, mi enillodd Cymru'r Gamp Lawn 'to, a fi yn sylwebu - felly hwnnw yn sicr oedd yr uchafbwynt.

A'r isafbwynt?

Y chwalfa o 96-13 yn erbyn De Affrica yn Pretoria ym mis Mehefin 1998. Onibai bod Percy Montgomery wedi gollwng y bêl bydde'r Springbok wedi croesi'r 100 pwynt. Diwrnod tywyll iawn oedd hwnnw.

Image caption O'r diwedd! Cafodd Huw y fraint o sylwebu ar Gymru yn ennill y Gamp Lawn yn 2005

Beth am ddyfodol y gêm yma yng Nghymru?

Ar hyn o bryd mae llwyddiant cymharol ar lefel rhyngwladol yn cuddio diffygion ar lefelau is. Rwy' wedi dweud o'r blaen y bydd hi'n cymryd cenhedlaeth tan i'r rhanbarthau ennill teyrngarwch y cefnogwyr.

Bydd angen cefnogwyr sydd ddim yn cofio dilyn Abertawe, Castell-nedd ac yn y blaen. Rwy'n poeni am y lleihad yn nifer y bechgyn ifanc sy'n chwarae'r gêm. Mae 'na gymaint o atyniadau eraill y dyddiau 'ma yn does e? Pan roeddwn i'n grwt, roedd y bechgyn yn chwarae rygbi neu bêl-droed.

Oes gen ti air o gyngor i ddarpar sylwebydd rygbi?

Rwy'n cofio'r hyn ddywedodd Onllwyn Brace [cyn fewnwr Cymru a chyn bennaeth Adran Chwaraeon BBC Cymru] wrtha i pan ddechreues i. Mae'n syml ond mae'n wir:

"Ar y radio d'weda wrtha i be dwi'n methu ei weld. Ar y teledu paid dweud wrtha i be dwi'n gallu ei weld."

Mae'n rhaid bod Cyfres yr Hydref eleni wedi bod yn brofiad od i ti. Dim paratoi i'w wneud, dim ymweliad cynnar â'r stadiwm ar ddiwrnod y gêm, dim blwch sylwebu, dim meic?

Oedd mi oedd e. Yn ffodus, ar gyfer gêm Awstralia cafodd fy ngwraig Carol a finne ein gwahodd gan Dennis Gethin, Llywydd Undeb Rygbi Cymru, i fod yn westeion arbennig iddo fe. Felly cawsom ni giniawa cyn y gêm a chael eistedd yn y seddi gorau. Dyma'r tro cyntaf i Carol a finne fwynhau gêm gyda'n gilydd ers 40 mlynedd!

Adeg gêm Ffiji roeddwn i'n canu cyn y gêm yn yr Ais gyda Chôr Meibion Tâf. Roedden ni'n codi arian i gael organ newydd i gapel y Tabernacl yng nghanol Caerdydd.

Mae'n bwysig i mi beidio mynd i rwtîn ar ddiwrnod gêm. Er enghraifft, pan fydd Cymru yn chwarae yn Murrayfield ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y flwyddyn newydd byddai'n teithio i'r Alban ar y bws 'da bois y Côr.

Mae'n brofiad hollol wahanol bod yn y dorf. Rwy'n gallu gwerthfarwogi'r dorf ac yn fwy ymwybodol o'r awyrgylch gan nad oes yna gyfarwyddwyr a chynhyrchwyr yn gweiddi cyfarwyddiadau yn fy nghlust i'n gyson!

Ar wahân i'r canu, beth arall wyt ti'n fwynhau ei wneud ar ôl ymddeol?

Rwy'n dal i sylwebu yn achlysurol ar gemau i Camp Lawn ac yn cael mwynhad o wneud. Rwy' hefyd yn Lywydd Clwb Rygbi Pentyrch, ble rwy'n byw, felly mae'r cysylltiad rygbi yn parhau. Mae'n braf bod gen i'r cyfle nawr i dreulio rhagor o amser yng nghwmni'r wyrion - Gruff, Cai a Meg.

Huw Llywelyn Davies: Tu ôl i'r Meic, S4C, 20:25 Gŵyl San Steffan.

Gallwch weld y rhaglen ar alw trwy'r BBC iPlayer neu wasanaeth Clic S4C.

Image copyright S4c