Golygydd chwaraeon i S4C

S4C Image copyright S4C

Mae S4C wedi penodi golygydd chwaraeon newydd.

Bydd Sue Butler yn gofalu am holl gynnwys chwaraeon y sianel a hi fydd yn denu a negydu hawliau darlledu ar gyfer amrywiaeth o gampau.

Fe fydd yn dechrau ei swydd ar 12 Ionawr.

Cafodd ei magu yn yr Wyddgrug ac mae hi nawr yn byw yn Sir Fynwy.

Mae hi wedi gweithio ar ddarllediadu prif ddigwyddiadau'r byd chwaraeon, gan gynnwys pum Gemau Olympaidd, Gemau'r Gymanwlad, Rowndiau Terfynol Cwpan yr FA, twrnamaint tenis Wimbledon, Cwpan Ryder, y Grand National a phencampwriaeth y Chwe Gwlad.

'Profiad helaeth'

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Mae'n bleser cyhoeddi y bydd Sue Butler yn ymuno â'r tîm ac yn dod â phrofiad helaeth yn y maes darlledu chwaraeon gyda hi.

"Gyda nifer cynyddol o sianeli yn cystadlu am yr hawliau i ddarlledu chwaraeon, mae'r maes yma yn un sy'n dod yn fwy cymhleth a chystadleuol fyth.

"Gwaith Sue fydd negydu yn y byd heriol hwn a sicrhau amserlen gyffrous o chwaraeon amrywiol i wylwyr S4C."