'Miliband yn malio dim am Gymru'

Stephen Crabb ar Stryd Downing
Image caption Cafodd Stephen Crabb ei ddyrchafu i swydd Ysgirfennydd Cymru ym mis Gorffennaf

Dyw arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband "yn malio dim am Gymru" yn ôl Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb.

Dywed AC Preseli Penfro fod Mr Miliband yn "cynrychioli popeth sy'n anghywir" gyda'r blaid Lafur gyfoes.

Dywedodd wrth y Western Mail fod arweinydd ei blaid ef, David Cameron, wedi gaddo ymroddiad i Gymru.

Ond yn ôl Owen Smith, llefarydd Llafur ar Gymru: "Mae Ed Miliband wedi ffocwsu yn llwyr ar y pethau pwysicaf sy'n effeithio ar Gymru... yr argyfwng sy'n effeithio costau byw."

Dywedodd Mr Crabb fod sicrhau fod uwch-gynhadledd Nato yn ymweld â Chasnewydd a'r cytundeb i drydaneiddio rhwydwaith rheilffyrdd y cymoedd yn dangos ymroddiad y Ceidwadwyr i Gymru.

"Pe bai chi'n cymharu hynny gydag Ed Miliband... Dyw'r dyn ym malio dim am Gymru," meddai.

"Faint o weithiau ydych chi wedi gweld Ed Miliband yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda Carwyn Jones eleni, yn siarad dros Gymru? Dydi o heb ddangos unrhyw ddiddordeb yng Nghymru."

Ond dywedodd Mr Smith: "Mae sylwadau y dyn sydd â'r swydd fwyaf unig yn y byd gwleidyddol - Tori sy'n Ysgrifennydd Gwladol dros wlad sy'n pleidleisio i Lafur - mae'r sylwadau yn rhai doniol dros ben.

"O bosib fod hyn yn arwydd o'r pwysau o fod mewn swydd newydd, rwyf felly yn gobeithio y bydd yn mwynhau seibiant dros y Nadolig, mae'n amlwg ei fod ei angen e."