Caerdydd 2-3 Brentford

Caerdydd v Brentford

Caerdydd 2-3 Brentford

Fe lwyddodd Brentford i ddal eu gafael ar fuddugoliaeth yn erbyn Caerdydd bnawn Sadwrn, er i'r Adar Gleision frwydro'n ôl yn yr ail hanner.

Roedd Brentford ar y blaen 3-0 ar yr hanner, diolch i Alex Pritchard, Andre Gray a Jota.

Ond fe darodd Caerdydd yn ôl yn yr ail hanner, gyda pheniad gan Craig Noone ac ergyd Kenwyne Jones.

Wedi'r gêm, mae Caerdydd parhau i fod yn yr unfed safle ar ddeg yn y Bencampwriaeth, gyda 30 o bwyntiau.