Bos Hartlepool eisiau arwyddo Ched Evans

Ched Evans Image copyright Getty Images

Mae rheolwr newydd Hartlepool, Ronnie Moore wedi cyhoeddi ei fod eisiau arwyddo Ched Evans.

Fe gafodd Evans, 25, ei ryddhau o'r carchar ym mis Hydref, wedi iddo dreulio hanner dedfryd o bum mlynedd dan glo am dreisio menyw mewn gwesty yn 2011.

Fe gymordd Moore yr awenau yn Hartlepool yr wythnos hon.

Wedi gêm y clwb yn erbyn Rhydychen bnawn Sadwrn, fe gadarnhaodd Moore fod arwyddo'r Cymro "yn bosiblrwydd".

"Petai o'n gallu digwydd, fe fyddwn i eisiau iddo fo ddigwydd. Mae o'n gallu sgorio goliau; mae o wedi talu ei ddyled ac mae'r hogyn eisiau chwarae pêl-droed."

Fis diwethaf, fe roddodd cyn-glwb Evans, Sheffield United, y gorau i adael iddo hyfforddi â'r garfan wedi gwrthwynebiad chwyrn.

Fodd bynnag, mae Moore yn fodlon cynnig llwybr yn ôl i'r maes chwarae i Evans.

"Os oes 'na siawns y gwnaiff o ddod yma, alla'i ddim gweld rheswm pam na ddylai o?" meddai.

"Mae o wedi gwneud camgymeriad a 'falle nad ydi o wedi ymddiheuro yn y ffordd iawn - a dw i'n gwybod fod ganddo apêl ar y gweill - ond os ddaw o yma, fe fydd o'n gymorth mawr i ddatrys ein trafferthion ni."

Image caption Fe gymordd Moore yr awenau yn Hartlepool yr wythnos hon

Straeon perthnasol