Twrci ar goll: Apêl teulu

Turkey Image copyright Wales News Service
Image caption Mae'r teulu wedi rhyddhau llun o George yn y gobaith o ddod o hyd iddo

Mae teulu o Gastell Newydd Emlyn yn chwilio am eu hanifail anwes - George, y twrci - wedi iddo fynd ar goll o'r ardd ddydd Sadwrn.

Mae'n debyg fod George - sy'n ddwy oed - wedi dianc o'r ardd wedi iddo gael ei ddychryn gan gi yn cyfarth.

Mae perchennog y twrci, Caroline Morgan, 38 oed, yn dweud ei bod hi'n poeni am ddiogelwch y 'deryn.

Fe ddywedodd ei bod hi'n pryderu "y gwnaiff e' troi lan ar blât cinio 'Dolig rhywun!"

Ychwanegodd na fyddai'r Nadolig yr un fath hebddo iddi hi a'i phlant, Caitlin, Eluned, Ieuan a Gethin.