Dreigiau Casnewydd Gwent 25-11 Zebre

Dreigiau yn erbyn Zebre Image copyright Huw Evans picture agency

Buddugoliaeth gartref i'r Dreigiau yn erbyn Zebre nos Sul, wrth i'r tîm o Went symud uwchben yr Eidalwyr yng nghynghrair y Pro12.

Roedd pethau'n agos rhwng y ddau dîm ar gychwyn y gêm wrth i Tom Prydie a Kelly Haimona ill dau lwyddo gyda chiciau cosb, ond aeth y Dreigiau ar y blaen diolch i gais gan Ross Wardle a throsiad gan Prydie.

Cafodd mantais y tîm cartref ei leihau wrth i Haimona sgorio ail gic gosb, cyn i Prydie ail-sefydlu'r fantais o saith pwynt gyda chic gosb yn y munudau olaf wrth i Mauro Bergamasco gael ei anfon i'r gell gosb.

Ac aeth pethau o ddrwg i waeth i Zebre ar gychwyn yr ail hanner wrth i Leonardo Sarto ymuno â Bergamasco yn y gell gosb.

Manteisiodd y Dreigiau ar gael dau chwaraewr ychwanegol ar y cae, wrth i Hallam Amos groesi am gais.

Pedwar munud yn ddiweddarach sgoriodd Rynard Landman ail gais i'r tîm cartref a llwyddodd Prydie gyda'r trosiad.

Sgoriodd Andrea Manici gais i'r ymwelwyr, oedd bellach gyda 14 o chwaraewyr ar y cae.

Ond nid oedd mantais y tîm cartref dan fygythiad, a daeth y gêm i ben 25-11.