Pa mor iach yw'r gwasanaeth iechyd?

Ward ysbyty
Image caption Mae cyflwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi bod yn daten boeth yn 2014

Beth yw cyflwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru - ydy o'n perfformio'n ddigon da? Ac os ddim, pwy sydd ar fai?

Mae'r cwestiynau hyn wedi bod yn amlwg ers tro, ond eleni mae'r ddadl wedi bod yn fwy ffyrnig nag erioed.

Mae David Cameron, bron yn wythnosol yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog, yn dewis amlygu targedau iechyd yng Nghymru sydd ddim wedi cael eu cyflawni ers blynyddoedd, meddai.

Ac yn yr hydref fe ymunodd papur newydd y Daily Mail yn y ffrae - gan ddewis cyhoeddi cyfres o erthyglau dros gyfnod o wythnos oedd, yn ôl y papur, yn profi fod record iechyd Llafur yng Nghymru yn warthus.

Yn syth wedi hynny, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymatebion manwl, ac erbyn diwedd yr wythnos roedd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn amddiffyn record ei lywodraeth ar y cyfryngau.

Image caption Mae Mark Drakeford wedi gorfod amddiffyn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar sawl achlysur eleni

Anodd cymharu

Ond yng nghanol y cecru a'r gwleidydda - beth yw'r gwirionedd? Un anhawster yw ei bod hi'n gallu bod yn anodd cymharu ar draws ffiniau - a hynny oherwydd bod y gwasanaeth iechyd yn Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn mesur pethau mewn gwahanol ffyrdd erbyn hyn. Rhywbeth sy'n achosi cryn rwystredigaeth, gyda llaw, i'r ymchwilwyr a'r ysgolheigion!

Eto i gyd, o nodi'r cafeat - prin yw'r rhai fyddai'n dadlau, am wn i, nad oes 'na rywfaint o fwlch perfformiad rhwng Cymru a Lloegr o ran ymatebion brys y gwasanaeth (er i'r Gweinidog Iechyd addo gwelliant sydyn eleni), ac amseroedd aros am brofion a therapi, (yn ôl y beirniaid, mae'r rhain wedi gwaethygu'n aruthrol yn ystod y pum mlynedd diwetha' - er bod Llywodraeth Cymru'n dweud fod gwelliant wedi bod yn ddiweddar).

Ar y llaw arall mae Llywodraeth Cymru'n tueddi i glochdar ynglŷn â pherfformiad Cymru o ran amseroedd aros am driniaeth canser, ac o ran lleihau'r oedi sy'n gallu digwydd cyn bod cleifion yn cael eu trosglwyddo o'r ysbyty - naill ai yn ôl i'w cartrefi neu i ofal cymunedol.

Ond y tu hwnt i hyn i gyd mae Mark Drakeford wedi dadlau eleni nad yw rhai o'r ystadegau eu hunain yn cynnig darlun cyflawn i gleifion.

Er ei fod o'r farn fod y ffigyrau'n mesur a chofnodi agweddau fel cyflymder ymateb y gwasanaeth ambiwlans, dydyn nhw'n dal ddim yn adlewyrchu safon y gofal gafodd y claf, na chwaith yr effaith a'r canlyniad. Hynny yw - a oedd y claf yn fwy tebygol o oroesi oherwydd y gofal a gawson nhw.

Image caption Fis Mawrth fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'r modd mae perfformiad y gwasanaeth ambiwlans ac unedau brys yn cael ei fesur yn newid

Targedau newydd

Felly fe gyhoeddodd Mr Drakeford eleni y byddai'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn llunio targedau newydd ar gyfer gofal brys a gofal canser i'w mesur ar y cyd (am y tro o leiaf) â'r ystadegau traddodiadol.

Ar ddiwedd y flwyddyn, a hithau'n aeaf, mae'r sylw'n troi eto, yn naturiol, at berfformiad y gwasanaeth iechyd - a'r prif gwestiwn yw, ydy'r gwasanaeth yn ymdopi â'r galw ychwanegol sy'n dod yn sgil tywydd gwael a heintiau'r gaeaf.

Eisoes mae'n amlwg fod rhai adrannau a gwasanaethau dan bwysau mawr - ac nid yng Nghymru yn unig.

Eto i gyd mae Llywodraeth Cymru yn mynnu fod ganddyn nhw gynlluniau manwl wedi'u paratoi a'u bod nhw'n hyderus yng ngallu'r gwasanaeth i ymateb.

Mae disgwyl i'r pwysau ar wasanaethau dros y gaeaf fod ar ei uchaf yn y flwyddyn newydd - ym misoedd Ionawr a Chwefror.

A dyna'r union adeg y bydd y gwleidyddion yn dechrau ymgyrchu ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Felly os oedd y dadlau dros iechyd yn danbaid yn 2014 - mae'n debygol o fod yn boethach fyth yn 2015.

Image copyright Science Photo Library
Image caption Mae'r dadlau am y gwasanaeth iechyd wedi bod yn ffyrnig eleni - beth ddaw yn 2015?

Straeon perthnasol