Llafur yn beirniadu ymgeisydd Ukip

John Rees-Evans Image copyright YouTube
Image caption Fe welir John Rees-Evans ar y fideo

Mae'r blaid Lafur wedi beirniadu ymgeisydd Ukip wnaeth ymateb i gwestiwn am bobl hoyw gyda stori am asyn yn ceisio treisio ceffyl.

Fe gafodd y digwyddiad ei ffilmio a'i osod ar wefan YouTube, ac yn ôl Llafur mae'n dangos "ochr sinistr" Ukip.

Mynnodd yr ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf, John Rees-Evans, bod Llafur wedi "creu dadl er mwyn gwneud stori o'r peth".

Yn y fideo ar y we, fe welir protestiwr yn erbyn Ukip yn gofyn i Mr Rees-Evans i ymateb i sylwadau - yr honnwyd iddyn nhw gael eu gwneud gan un o ymgeiswyr eraill y blaid - bod "yn well gan rai pobl hoyw gael rhyw gydag anifeiliaid".

Dywedodd Mr Rees-Evans ei fod "wedi bod yn dyst i hynny", cyn dweud stori am asyn gwrywaidd a geisiodd dreisio ei geffyl stalwyn.

Yn ddiweddarach, dywedodd wrth BBC Cymru: "Fedra i ddim gweld sut yn y byd y byddai rhywun yn credu fy mod yn ceisio sarhau unrhyw un drwy ddweud hynny."

Mae'n sefyll ar ran Ukip yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth.

Dywedodd ei fod wedi agor canolfan ymgyrchu ym Mhenarth gan ei fod "yn weddol siŵr fod yna bobl sy'n credu bod Ukip yn arddel pob math o syniadau rhyfedd ac ofnadwy, ond dydyn ni ddim mewn gwirionedd".

Dywedodd AS Llafur yr etholaeth, Stephen Doughty: "Fe allai rhywun gredu bod yr ateb yn rhywbeth allan o'r gyfres ddychan 'The Thick Of It', ond mae sylwadau amhriodol fel hyn yn dangos ochr sinistr i'r blaid gas yma.

"Mae'r sylwadau yma gan Mr Rees-Evans yn codi cwestiwn difrifol os yw'n addas i fod yn ymgeisydd seneddol."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.