Cynlluniau ar gyfer pencadlys BBC Cymru yng Nghaerdydd

Llun artist o'r pencadlys newydd Image copyright other
Image caption Llun artist o'r pencadlys newydd

Mae cynlluniau ar gyfer pencadlys newydd BBC Cymru wedi cael eu cyflwyno i Gyngor Caerdydd.

Daw hyn yn sgil cytundeb rhwng y BBC a'r datblygwyr Rightacres i godi canolfan newydd yng nghanol y brifddinas ar safle'r orsaf fysus bresennol.

Pe bai caniatâd cynllunio yn cael ei roi mae disgwyl i'r gwaith ddechrau yn y flwyddyn newydd gyda'r staff yn symud o'r pencadlys presennol yn Llandaf yn ystod 2018.

Dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru Rhodri Talfan Davies fod y cynlluniau yn "garreg filltir bwysig".

Dywedodd prif weithredwr Rightacres, Paul McCarthy: "Mae penderfyniad y BBC i ddewis safle y Sgwâr Ganolog wedi rhoi momentwm mawr i'r holl brosiect."

Dywedodd ei fod yn ffyddiog y byddai pencadlys y BBC yn ganolbwynt i ddatblygiad yr holl safle.

Fe fydd 1,200 o staff yn symud o Landaf pan fydd y pencadlys newydd wedi ei orffen.

Image copyright other
Image caption Bydd yr adeilad newydd yng nghanol y brifddinas