Gweilch yn arwyddo chwaraewr rhyngwladol Fiji

Tevita Cavubati Image copyright Reuters
Image caption Tevita Cavubati'n cael ei daclo gan Justin Tipuric wrth i Fiji herio Cymru fis diwethaf

Mae rhanbarth rygbi'r Gweilch wedi arwyddo blaenwr newydd, chwaraewr rhyngwladol Fiji Tevita Cavubati, tan ddiwedd y tymor.

Bydd y chwaraewr ail reng 27 oed yn cynnig dewis i'r hyfforddwr Steve Tandy, gan fod y garfan yn diodde o nifer o anafiadau ar hyn o bryd.

Mae Lloyd Peers a De Kock Steenkamp allan am gyfnodau hir gydag anafiadau a dim ond Alun Wyn Jones a Rynier Bernardo sydd ar gael fel chwaraewyr ail reng.

Fe wnaeth Cavubati greu argraff drwy gael gêm dda dros Fiji yn erbyn Cymru fis diwethaf.

"Mae hwn yn gyfle gwych i mi," meddai, "ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr. Ar ôl y gêm yn erbyn Cymru, rwy'n gwybod cystal chwaraewyr sydd gan y Gweilch.

"Mae'n gyfnod prysur yn y Pro12, felly gobeithio y bydda' i'n setlo'n gyflym a chwarae rhan yn y tîm."

Bu Cavubati'n chwarae i glwb Tasman Makos ers 2012.