Charlton 1-1 Caerdydd

Tom Adeyemi Image copyright Getty Images
Image caption Tom Adeyemi gafodd y gôl gynnar i Gaerdydd

Os gafodd chwaraewyr Caerdydd Nadolig da, roedd hi'n ddydd San Steffan siomedig i'r tîm a'u rheolwr Russell Slade yn Charlton ddydd Gwener.

Fe gafodd yr Adar Gleision ddechrau gwych gan ennill cic gornel o fewn hanner munud i'r gic gyntaf, ac roedd y pwysau'n ddi-stop yn y cyfnod agoriadol.

Arweiniodd hynny at y gôl gyntaf wedi 12 munud wrth i beniad Ben Turner ganfod Tom Adeyemi yng nghanol y cwrt cosbi, ac fe beniodd yntau i'r rhwyd.

Daeth Adeyemi yn agos at ei ail o fewn dau funud wrth i Turner ei ganfod eto ar ymyl y cwrt, ond y tro hwn aeth ei ergyd dros y trawst.

Fe gododd gobeithion Caerdydd pan welodd Callum Harriott o Charlton gerdyn coch am dacl fudr ar Craig Noone, a hynny dros ddeng munud cyn yr egwyl.

Er hynny roedd Charlton yn parhau'n fygythiol wedi'r egwyl er i Gaerdydd hefyd fethu cyfleoedd.

Fe darodd Gudmundsson y postyn i'r tîm cartref a bu'n rhaid i David Marshall wneud sawl arbediad i gadw Caerdydd ar y blaen.

Ond llwyddodd Charlton i gael y gôl holl bwysig gydag ond dau funud yn weddill - bwled o ergyd gan Johann Berg Gudmundsson o 25 llath i gornel ucha'r rhwyd.

Roedd hwn yn gyfle gwych i Gaerdydd gael buddugoliaeth arall oddi cartref, ond fe fydd pawb sy'n ymwneud â'r clwb yn siomedig gyda phwynt yn unig o dan yr amgylchiadau.