Gleision 17-23 Dreigiau

Elliott Dee Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Elliott Dee sgoriodd y cais cyntaf i'r Dreigiau

Ar ôl buddugoliaeth yn erbyn y Scarlets cyn y Nadolig, roedd disgwyl pethau mawr gan gefnogwyr y Gleision wrth groesawu'r Dreigiau i Barc yr Arfau.

Ond roedd hi'n brynhawn siomedig mewn sawl ffordd wrth i'r ymwelwyr gipio'r pwyntiau wrth i berfformiad y Gleision siomi nifer oedd yn gwylio.

Ar ôl cic gosb gynnar, fe ddaeth cais cynta'r gêm i Elliott Dee i'r Dreigiau, ac yn dilyn trosiad a chic gosb arall gan Tom Prydie, roedd yr ymwelwyr dri phwynt ar ddeg pwynt ar y blaen.

Gyda Gareth Anscombe ar y fainc, Gareth Davies oedd maswr y Gleision. Methodd gydag un cynnig hawdd o gic gosb o flaen y pyst, ond llwyddodd gydag un arall anoddach i gau'r bwlch rhyw fymryn cyn yr egwyl.

Ond roedd blaenwyr y tîm o Gaerdydd yn cael eu chwalu, ac wedi cyfnod o bwysau fe ddaeth cais cosb i'r Dreigiau yn fuan yn yr ail gyfnod. Gyda throsiad Prydie roedd hi'n 20-3.

Dyna pryd y daeth Anscombe o'r fainc fel eilydd i'r Gleision, ac fe newidiodd y gêm yn sydyn.

Roedd e a Tavis Knoyle yng nghanol symudiad celfydd a welodd Jarrad Hoeata yn croesi am gais, ac Anscombe ei hun drosodd i'w gwneud hi'n 10-20 gyda chwarter awr yn weddill.

O fewn dim roedd Anscombe wrthi eto. Fe greodd y cyfle i Knoyle grosei am gais arall cyn troi'r cais ei hun a chau'r bwlch i dri phwynt yn unig.

Fe ddaeth y Dreigiau yn ôl gyda gôl gosb arall gan Prydie cyn i'r dyfarnwr fideo wrthod caniatau cais i Dorian Jones fyddai wedi sicrhau'r fuddugoliaeth yn bendant.

Roedd y munudau cloi yn llawer mwy nerfus i'r Dreigiau na'r disgwyl wedi iddyn nhw reoli mwyafrif y gêm, ond roedd y canlyniad yr un cywir.