Casnewydd 2-0 Plymouth

Mae cyfres o ganlyniadau da Casnewydd ar Rodney Parade yn parhau wedi buddugoliaeth yn erbyn Plymouth.

Fe ddaeth unig gôl y gêm yn gynnar gyda Chris Zebrowski'n rhwydo wedi dim ond naw munud.

Er i Plymouth gael mwyafrif y meddiant, roedd amddiffyn Casnewydd yn gadarn.

Wyth munud cyn y diwedd, daeth ail gôl i'r tîm cartref gyda Mark Byrne yn rhwydo o groesiad Andy Sandell.

Mae'r fuddugoliaeth yn codi Casnewydd i'r seithfed safle yn yr ail adran, ac i mewn i safleoedd y gemau ail gyfle.